Memorandwm ar Gynigion Cyllideb Ddrafft 2017-18

ar gyfer yr Economi a'r Seilwaith

 

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - 3 Tachwedd 2016


 

1.0         Rhagarweiniad

 

Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth am gynigion y gyllideb ar gyfer yr Economi a'r Seilwaith fel y'u nodir yng Nghyllideb Ddrafft 2017/18 a gyhoeddwyd ar 18 Hydref 2016. Nid yw'n cynnwys manylion y gyllideb ar gyfer Diwylliant. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn rhoi sylw i hyn yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar 2 Tachwedd 2016.  Nid yw ychwaith yn cynnwys meysydd Sgiliau, y Seilwaith TGCh, Gwyddoniaeth, Arloesi a Gwyddorau Bywyd. Ymdrinnir â'r rhain mewn papur ar wahân a gyflwynir i'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Symud Cymru Ymlaen 2016-21 sy'n nodi ei blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf i sicrhau rhagor o swyddi a swyddi gwell drwy greu economi gryfach a thecach, i wella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus, ac i adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. Bydd y portffolio'n cyfrannu at wireddu blaenoriaethau allweddol yr Economi a'r Seilwaith o dan y pedair strategaeth sydd yn Symud Cymru Ymlaen, gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau posibl.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd wedi darparu'r fframwaith ar gyfer datblygu ein cynllun ac rydym wedi mabwysiadu safbwynt tymor hir ac ymagwedd integredig wrth wneud y penderfyniadau sy'n gefn i saith nod y Ddeddf.

 

2.0         Crynodeb o'r Newidiadau i'r Gyllideb


Yn y Gyllideb Ddrafft, cyhoeddir cynlluniau gwariant refeniw ar gyfer 2017-18 yn unig. Mae hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru asesu effaith Datganiad yr Hydref gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.  Mae'r cynlluniau cyfalaf pedair blynedd yn cynnwys cyllideb gadarn ar gyfer 2017-18 a dyraniadau dangosol ar gyfer y tair blynedd wedyn.  Bydd ymagwedd tymor hir fel hyn at gynllunio cyfalaf yn cynnig rhagor o dryloywder a sicrwydd i'n prif randdeiliaid a'n partneriaid cyflawni ym maes trafnidiaeth a'r economi.

 

Yn gyffredinol, mae dyraniadau adnoddau 2017-18 i gefnogi'r Economi a'r Seilwaith (ac eithrio'r Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME)) wedi cynyddu £86.25m.  Mae'r symudiad hwn yn cynnwys cynnydd refeniw o £6.25m a chynnydd nad yw'n arian parod o £80m fel y'i dangosir yn Nhabl 1:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

TABL 1: Trosolwg o’r Gyllideb Refeniw

 

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

 

£’000

Newidiadau
2017-18

 

£’000

Cyllideb
Ddrafft

 2017-18
£’000

Refeniw

 

 

 

Yr Economi

47,762

1,398

49,160

Trafnidiaeth

295,168

4,852

300,020

Is-gyfanswm

342,930

6,250

349,180

Nid yn Arian Parod

 

 

 

Trafnidiaeth

108,691

80,000

188,691

 

 

 

 

CYFANSWM

451,621

86,250

537,871

AME

 

 

 

AME

36,834

75,231

112,065

 

Dros y cyfnod 2017-18 tan 2020-21, cyfanswm y gyllideb cyfalaf yw £1.461bn sy'n cynnwys £1.354bn o gyllid cyfalaf traddodiadol a £107m o Gyllid ad-daladwy'r Gronfa Trafodion Ariannol Wrth Gefn (FTR)[1]. Dangosir y cyllidebau cryno yn Nhabl 2 isod:

 


TABL 2: Trosolwg o'r Gyllideb Cyfalaf

 

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Economi

45,947

66,002

47,839

46,788

28,606

189,235

Trafnidiaeth

278,666

336,486

226,877

254,867

346,428

1,164,658

Is-gyfanswm

324,613

402,488

274,716

301,655

375,034

1,353,893

Cronfa Trafodion Ariannol Wrth Gefn

Yr Economi

25,000

43,605

15,720

31,500

8,000

98,825

Trafnidiaeth

0

5,000

2,200

1,200

0

8,400

Is-gyfanswm

25,000

48,605

17,920

32,700

8,000

107,225

Cyfanswm Cyfalaf

Economi

70,947

109,607

63,559

78,288

36,606

288,060

Trafnidiaeth

278,666

341,486

229,077

256,067

346,428

1,173,058

CYFANSWM

349,613

451,093

292,636

334,355

383,034

1,461,118

           

Mae'r cynlluniau gwariant hyn wedi'u cysoni â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru ac maent yn ein galluogi i ddechrau gwireddu prif flaenoriaethau Symud Cymru Ymlaen 2016-21.

 

Gan fod rhai prosiectau blaenllaw'n dal yn eu babandod o ran llunio’u cynlluniau cyflawni, mae rhywfaint o gyllid wedi’i glustnodi mewn cronfeydd canolog i gefnogi’r gwaith o’u cyflawni. Dangosir y cyllid ar gyfer gweithgareddau'r Economi ac Arloesi a gedwir yng nghronfa ganolog wrth gefn Llywodraeth Cymru yn Nhabl 3 isod:

TABL 3: Cyllid Cyfalaf a gedwir yn y Gronfa Ganolog Wrth Gefn

 

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

Cyfanswm

Gweithgarwch

£’000

£’000

£’000

£’000

£’000

M4

24,000

256,023

325,609

331,991

937,623

Metro De Cymru

5,088

27,440

41,400

35,500

109,428

Cyfanswm

  29,088

283,463

367,009

367,491

1,047,051

 

2.1  Refeniw

 

Wrth lunio ein cynlluniau gwario ar gyfer 2017-18 rydym wedi ceisio lliniaru effaith y gostyngiadau ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a thwf a swyddi yn y tymor byr. Dros y tymor hwy, bydd angen inni rannu adnoddau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a chydweithio â'n partneriaid i sicrhau arbedion effeithlonrwydd tymor hir. Byddwn yn cynnwys pobl wrth inni wneud penderfyniadau yn y dyfodol i lywio'n blaenoriaethau.

 

Sicrhawyd dyraniadau ychwanegol o £8m i gefnogi'r cytundeb â Phlaid Cymru ynghylch y gyllideb. Bydd cyllid ychwanegol o £5m i gefnogi Croeso Cymru, £2m ar gyfer Cronfa Seilwaith Porthladdoedd, £0.2m ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i lwybr beicio cenedlaethol, £0.3 m ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth a £0.5m ar gyfer llwybrau mwy diogel i’r ysgol. Llwyddwyd i arbed £1.75m drwy ganfod arbedion effeithlonrwydd, ailbroffilio cynlluniau cyflawni ac ailasesu'r gofynion gwariant ar gyfer rhaglenni. Mae hyn wedi arwain at gynnydd net mewn refeniw gwerth £6.250m.

 

Mae'r gyllideb wedi'i hailgysoni hefyd i gyfuno'r gweithgarwch hedfanaeth ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan drwy drosglwyddo £2.948m o'r Sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (Cyllideb yr Economi) i Wasanaethau Awyr (Cyllideb Trafnidiaeth).

 

Rhoddir y manylion am y symudiadau yn nyraniadau'r gyllideb ar lefel Camau Gweithredu o gyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 i ddyraniadau Cyllideb Ddrafft  2017-18 yn Atodiad A.

 

2.2   Nid yn Arian Parod

 

Mae'r dyraniad ychwanegol, £80m o'r gronfa gadw nad yw'n arian parod yn cefnogi'r gofynion cyllidebol ar gyfer rhwydwaith y traffyrdd a'r priffyrdd.

 

2.3   Cyfalaf

 

Bydd gallu fforddio'r rhaglenni cyfalaf dros gyfnod pedair blynedd y gyllideb yn her o hyd. Byddwn yn parhau i fabwysiadu dull gwario ataliol, gan werthuso manteision a chanlyniadau hirdymor ein buddsoddiadau strategol i sicrhau'r manteision economaidd gorau posibl a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cyfleoedd cyllido arloesol a chyfleoedd eraill i gryfhau ein hadnodd ariannol yn bwysig, yn ogystal â blaenoriaethu a dull hyblyg o gynllunio ein buddsoddi er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r pwerau benthyca cyfalaf sydd wedi'u darparu drwy Ddeddf Cymru 2014 i hybu'r cyllid cyfalaf sydd ar gael inni, yn benodol i gefnogi ariannu'r M4 newydd yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus.

Bydd sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd i Gymru'n bwysig wrth asesu'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi cyfalaf.

 

Cyfanswm y gyllideb ar gyfer yr Economi yw oddeutu £288m a bydd hyn yn gefn i ystod eang o flaenoriaethau. Byddwn yn parhau i ddarparu llwybr ariannu i Fentrau Bach a Chanolig drwy ein cronfeydd datblygu busnes gan gynnwys y rheini sydd o fewn Cyllid Cymru. Bydd creu'r Banc Datblygu newydd i Gymru'n cryfhau'r cynllun polisi hwn ac fe'i cefnogir drwy ddarparu £46m o gyllid trafodion ariannol dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r gyllideb hefyd yn darparu ar gyfer Cyllid Ad-daladwy i Fusnesau a chamau i fagu hyder ym myd busnes megis y Gronfa Twf a Ffyniant.

Wrth greu'r amgylchiadau iawn ar gyfer cyfleoedd i sicrhau twf a chyflogaeth cynaliadwy, bydd £52m o gyllid cyfalaf ar gael dros y pedair blynedd i ddatblygu safleoedd strategol sy'n rhan hanfodol o'n cynnig i fusnesau wrth annog buddsoddi yng Nghymru.

 

Mae sicrhau cysylltedd trafnidiaeth ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol yn hanfodol er mwyn creu cydlyniant cymdeithasol ac agor y drws ar gyfleoedd i gael gwaith. Dros y pedair blynedd nesaf, dyrennir £1.173bn i flaenoriaethu cynlluniau a nodir yng Nghynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015.  Yn ogystal â hyn, bydd £938m yn cael ei gadw yng nghronfa ganolog wrth gefn Llywodraeth Cymru i ddatblygu ffordd liniaru'r M4, a dibynnu ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Gan gydnabod bod datblygu systemau trafnidiaeth integredig hefyd yn ysgogiad pwysig ar gyfer twf economaidd, mae cyfanswm o £369m ar gael (gan gynnwys £109m yng nghronfa ganolog wrth gefn Llywodraeth Cymru) ar gyfer Metro'r de ac mae cyllid ar gael i ddatblygu Metro'r gogledd.  Mae'r cynlluniau gwariant ar gyfer Trafnidiaeth hefyd yn cynnwys bron £300m ar gyfer cynnal a chadw a gwella ffyrdd.

 

Mae tablau Llinell Wariant y Gyllideb yn Atodiad B yn rhoi manylion llawn am gyllidebau refeniw a chyfalaf y portffolio.

Mae MEG yr Economi a'r Seilwaith hefyd yn cynnwys dyraniad yn y gyllideb ar gyfer AME, sy'n darparu ar gyfer costau sydd y tu hwnt i reolaeth y portffolio, megis lleihad yn y portffolio eiddo, mentrau ar y cyd, buddsoddiadau a'r rhwydwaith ffyrdd.

 

3.0      ASESIAD EFFAITH INTEGREDIG STRATEGOL

 

Yn Atodiad C, rhestrir y prif ystyriaethau wrth inni benderfynu ynghylch y gyllideb a sut mae'r effeithiau ar gydraddoldeb, cynaliadwyedd a'r Gymraeg wedi dylanwadu ar y dyraniadau. Mae hefyd yn nodi'r ymrwymiad tymor hir i liniaru effaith amddifadedd a thlodi.

 

 

 

 

 

4.0      YR ECONOMI - CYLLIDO MEYSYDD RHAGLENNI GWARIANT

 

O'i gymharu â chyllideb Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017-18, gwelir cynnydd net o £1,398m yn y dyraniad refeniw, o fewn maes cyffredinol y rhaglen. Cyfanswm y dyraniad cyfalaf dros y cyfnod 2017-18 tan 2020-21 yw £288.06m.

 

 

Yr Economi

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000

Newid

£’000

Cyllideb
Ddrafft

 2017-18
£’000

Refeniw

47,762

1,398

49,160

 

Yr Economi

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

45,947

66,002

47,839

46,788

28,606

189,235

FTR

25,000

43,605

15,720

31,500

8,000

98,825

Cyfanswm

70,947

109,607

63,559

78,288

36,606

288,060

 

Bydd dyraniadau ein cyllideb yn sbarduno buddsoddi yn yr economi wrth inni ddechrau gwireddu prif flaenoriaethau Symud Cymru Ymlaen.  Er nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â setliadau ariannol refeniw'r dyfodol, canolbwyntir yr adnoddau ar weithgareddau i sicrhau'r cyfleoedd gorau i bob unigolyn yn y dyfodol agos.

 

4.1      Sectorau a Busnes

 

SPA Sectorau a Busnes1

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017-18

£’000

Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft

2017-18

£'000

Refeniw1

33,541

1,952

35,493

            1 Nid yw'n cynnwys Gwyddoniaeth, Arloesi a Gwyddorau Bywyd

 

Sectorau a Busnes1

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

61,672

59,857

44,314

44,073

25,061

173,305

FTR

25,000

25,750

8,500

25,400

3,000

62,650

Cyfanswm

86,672

85,607

52,814

69,473

28,061

235,955

            1 Nid yw'n cynnwys Gwyddoniaeth, Arloesi a Gwyddorau Bywyd

 

Mae'r cyllidebau ar gyfer Sectorau a Busnes yn allweddol er mwyn sicrhau twf a swyddi cynaliadwy, a hefyd maent yn cyfrannu at yr agenda trechu tlodi, yr agenda addysg a'r agenda cyfle cyfartal. Mae'r gyllideb yn cefnogi cyflawni yn y Sectorau sy'n Flaenoriaeth sy'n cael eu llywio gan ddiwydiant, Entrepreneuriaeth, Masnach a Mewnfuddsoddi a Pharthau Menter.

 

4.1.1     Sectorau

 

Cam Gweithredu yn y Sectorau1

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000



Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft

2017-18

 £’000

Refeniw

29,310

1,952

31,262

1Nid yw'n cynnwys Gwyddorau Bywyd

 

 

Sectorau

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

61,672

59,857

44,314

44,073

25,061

173,305

FTR

25,000

25,750

8,500

25,400

3,000

62,650

Cyfanswm

86,672

85,607

52,814

69,473

28,061

235,955

 

Dangosir manylion y gweithgareddau yn ôl Llinell Wariant y Gyllideb yn Atodiad B.

 

Mae'r cynnydd o £1.952m yng nghyllideb refeniw'r Sectorau, fel y'i nodir yn Atodiad A, yn berthnasol i ddyraniad ychwanegol fel rhan o'r cytundeb ynghylch y gyllideb i ddarparu £5m ar gyfer gweithgareddau Croeso Cymru i hybu Cymru fel lle o'r radd flaenaf i ymweld ag ef, i fyw ac i astudio ynddo, ac yn erbyn hynny gosodir trosglwyddiad o £2.948m yn y gyllideb i Gam Gweithredu Gwasanaethau'r Rheilffyrdd ac Awyr ar gyfer gweithgareddau hedfanaeth ac arbediad o £0.1m a ragwelir yn sgil adolygu rhaglenni.

 

Mae cyllideb cyfalaf y Sectorau, sef £235.955m yn cefnogi prosiectau strategol sydd wrthi'n cael eu cyflawni, y Gronfa Twf a Ffyniant a chronfeydd buddsoddi Banc Datblygu Cymru.

 

4.1.2     Entrepreneuriaeth

 

Cam Gweithredu Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000



Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft 2017-18

£'000

Refeniw

4,231

0

4,231

 

Mae'r £4,231m yn y gyllideb ar gyfer Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnesyn cefnogi entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc, busnesau newydd, microfusnesau, mentrau bach a chanolig ac arferion cyfrifol ym maes busnes.  Bydd arferion cyfrifol ym maes busnes yn hwyluso ymrwymiadau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol drwy fynnu bod busnesau'n ymddwyn yn foesegol ac yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi.  Mae'r gyllideb hefyd yn denu cyfanswm o £39m o arian yr Undeb Ewropeaidd drwy raglen Busnes Cymru 2013-2029 sy'n werth £65m. Rheolir arian yr Undeb Ewropeaidd yn unol â gofynion y gyllideb graidd dros gyfnod y rhaglen.


4.2      Digwyddiadau Mawr

 

Cam Gweithredu Digwyddiadau Mawr

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000



Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft

2017-18

 £'000

Refeniw

3,918

0

3,918

 

Bydd y gyllideb o £3.918m ar gyfer Digwyddiadau Mawr yn cefnogi gwaith i ddenu mwy o ddigwyddiadau rhyngwladol mawr i Gymru, yn ogystal â datblygu portffolio cryf o ddigwyddiadau 'unigryw' sy'n 'gynnyrch cartref'.

 

4.3      Seilwaith Cysylltiedig ag Eiddo

 

Cam Gweithredu Cyflawni Seilwaith yn Gysylltiedig ag Eiddo

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000

 

Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft 2017-18

 £'000

Refeniw

4,026

0

4,026

 

Cyflawni Seilwaith yn Gysylltiedig ag Eiddo

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau Cyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

(15,815)

6,041

3,405

2,577

3,386

15,409

FTR

0

17,855

7,220

6,100

5,000

36,175

Cyfanswm

(15,815)

23,896

10,625

8,677

8,386

51,584

 

Mae'r gyllideb refeniw, £4.026m, yn darparu ar gyfer rheoli a datblygu'r portffolio eiddo, gweithgarwch adfer tir a chynigion eiddo i fusnesau. 

 

Yn 2016-17, cynlluniwyd ar gyfer derbyniadau cyfalaf sylweddol yn sgil gwerthu safleoedd strategol gan arwain at incwm ychwanegol net o £15.815m i gefnogi blaenoriaethau'r gyllideb. Bydd y gyllideb cyfalaf, £51.584m, yn darparu ar gyfer datblygu safleoedd strategol i gefnogi blaenoriaethau'r sector a blaenoriaethau gofodol ledled Cymru.

 

 

 

4.4      Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol

SPA Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000



Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft 2017-18

 £'000

Refeniw

6,277

(554)

5,723

 

 

Cam Gweithredu Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

90

104

120

138

159

521

 

Mae'r gyllideb yn cynnwys y grant gweithredol ar gyfer Cyllid Cymru, rhaglen Her Iechyd Cymru, ad-daliadau'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol, a gweithgarwch cefnogi'r strategaeth. 

 

 

4.4.1     Rhaglenni Corfforaethol

Cam Gweithredu Rhaglenni Corfforaethol

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000

Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft

2017-18

 £'000

Refeniw

4,117

(134)

3,983

 

 

Cam Gweithredu Rhaglenni Corfforaethol

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017- 18

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

90

104

120

138

159

521


Mae'r gyllideb refeniw'n cefnogi Her Iechyd Cymru, ad-daliadau'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol, dadansoddiadau economaidd ac ymgysylltu strategol.  Mae'r gostyngiad o £0.134m yn berthnasol i ofyniad llog is ar ddyled y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol a gostyngiad yn y gofyniad ar gyfer adolygiadau corfforaethol. 

 

Mae'r gyllideb cyfalaf yn berthnasol i ad-daliadau i'r Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol yn unol â'r amserlenni ad-dalu y cytunwyd arnynt o'r blaen. 


 

4.4.2     Cyllid Cymru

Cam Gweithredu Cyllid Cymru

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000

Newid
£’000

Cyllideb Ddrafft 2017-18

 £'000

Refeniw

2,160

(420)

1,740


Mae'r gyllideb hon yn darparu grant gweithredu ar gyfer Cyllid Cymru sy'n cefnogi gweinyddu cronfeydd buddsoddi ar gyfer busnesau.  Mae'r grant wedi'i ostwng £0.420m yn dilyn arbedion effeithlonrwydd gweithredol. 

 

5.0      YR ECONOMI A'R SEILWAITH - PRIF BOLISÏAU

 

Darparwyd gwybodaeth ychwanegol i ymateb i'r meysydd penodol y tynnwyd sylw atynt gan y Pwyllgor fel a ganlyn:

                                                                               

5.1      Blaenoriaethau ar gyfer Datblygu Economaidd

 

Mae'r Rhaglen Lywodraethu newydd – Symud Cymru Ymlaen 2016-21 yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y  pum mlynedd nesaf ac mae i'w gweld yn: http://gov.wales/docs/strategies/160920-taking-wales-forward-cy.pdf.

 

Ein huchelgais yw adeiladu economi gryfach a sicrach, ac rydym yn ceisio barn am y blaenoriaethau ar gyfer yr economi  gan bobl, busnesau a sefydliadau ledled Cymru i glywed eu safbwyntiau am eu blaenoriaethau ar gyfer twf yn y dyfodol.http://gov.wales/topics/businessandeconomy/welsh-economy/priorities-for-the-economy/?lang=cy

 

5.2      Y Gronfa Twf a Ffyniant

 

Lansiwyd y Gronfa Twf a Ffyniant, gwerth £5m, ar 18 Medi 2016 gyda darpariaeth i gefnogi Mentrau Bach a Chanolig ym mlwyddyn ariannol 2017-18. http://gov.wales/newsroom/businessandeconomy/2016/160919-new-growth-prosperity-fund-launches-this-week-to-support-jobs-and-business-growth/?lang=cy.

 

Bydd y gefnogaeth ar ffurf grantiau dewisol na fydd gofyn eu had-dalu ac ni fydd y rhain wedi'u cyfyngu i'r sectorau sy'n flaenoriaeth ond yn hytrach anogir ceisiadau'n benodol o bob rhan o'r economi. 

 

Cynigir symiau'n amrywio o £50,000 hyd at fwyafswm o £500,000 (ar yr amod bod y cynigion yn cynnig gwerth am arian a'u bod o fewn terfynau cymorth gwladol) a byddant yn cynnig cyfle i ddenu buddsoddiadau preifat mawr eu hangen i Gymru.

 

5.3      Banc Datblygu Cymru

 

Bydd Banc Datblygu Cymru'n elfen graidd o bolisi a chyflawni economaidd Llywodraeth Cymru, ac mae wedi'i gynnwys yn y Rhaglen Lywodraethu - Symud Cymru Ymlaen.  Fe’i cefnogir gyda £46m dros y pedair blynedd.

 

Bydd y Banc yn adeiladu ar brofiad ac arbenigedd Cyllid Cymru sy'n dal i dorri pob record buddsoddi a fu yn y gorffennol gan iddo fuddsoddi dros £45m yn ystod 2015/16 ym musnesau Cymru.  Yn sgil hyn, llwyddwyd i ddenu gwerth bron £65m o fuddsoddiadau ychwanegol gan arwain at dros £110m o gyfalaf twf yn cael ei chwistrellu i economi Cymru.   

 

Amcan strategol y Banc fydd gwella gallu Mentrau Bach a Chanolig i gael gafael ar gyllid a chefnogi creu a diogelu swyddi.  Ar yr un pryd, bydd hyn yn gwella integreiddio'r cyngor a'r cymorth cysylltiedig â buddsoddi a ddarperir ar gyfer busnesau drwy gydweithio'n fwy agos â Busnes Cymru.

 

5.4      Dinas-Ranbarthau

 

Mae datblygu dinas-ranbarthau ym Mae Abertawe a Phrifddinas Caerdydd yn cefnogi cysoni a chydweithio rhanbarthol i wireddu cyd-ddyheadau ar gyfer swyddi a thwf. 

 

Yn y ddau ddinas-ranbarth, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cynigion ar gyfer Bargeinion Dinesig sydd wedi’u teilwra'n arbennig. Ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Bargen gwerth £1.2bn wedi'i llofnodi gan Awdurdodau Lleol y Rhanbarth, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.  Mae Metro De Cymru rhan hanfodol o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ym Mae Abertawe, mae cynnig ar gyfer Bargen Ddinesig wrthi'n cael ei baratoi i'w gyflwyno ym mis Tachwedd.  Seilir hyn ar y ddogfen weledigaeth strategol 'Arfordir Rhyngrwyd' a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, sy'n ceisio safleoli'r rhanbarth fel canolfan brofi o bwys sy'n arloesi, yn profi ac yn masnacheiddio'n fyd eang ddatrysiadau seiliedig ar y rhyngrwyd a hynny mewn ystod o sectorau.

 

5.5      Y gogledd a datblygu economaidd trawsffiniol

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sylweddoli ers tro bod y gogledd-ddwyrain yn elwa o ardal economaidd drawsffiniol sy'n estyn i  ogledd-orllewin Lloegr ac i lawr i ganolbarth Lloegr.  Mae hyn yn cynnig cyfleoedd sylweddol i fusnesau a gweithwyr Cymru ac felly dyma pam yr ydym wedi cefnogi cyrff megis Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy gyhyd.

Cyhoeddodd y Canghellor yn ei gyllideb ddiwethaf ei fod yn agored i dderbyn cais Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol i'r ystod eang o randdeiliaid ar draws y rhanbarth ac wedi datblygu a chyflwyno cynnig cychwynnol i Drysorlys EM. Bydd hyn yn destun rhagor o drafod dros y misoedd nesaf.

Cynhaliwyd uwch-gynhadledd i brif-randdeiliaid o ogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr ym mis Gorffennaf. Y nod oedd casglu barn pobl am y blaenoriaethau sy'n codi i ogledd Cymru ac i geisio cytundeb ynghylch sut i ddiffinio gweledigaeth gydlynol ar gyfer y rhanbarth fel rhan o Bwerdy trawsffiniol y Gogledd. Cynhelir rhagor o drafodaethau yn yr Hydref.

5.6      Ardaloedd Menter

 

Mae rhaglen yr Ardaloedd Menter hefyd yn ceisio darparu'r seilwaith i greu lleoliadau ardderchog ar gyfer buddsoddi mewn busnesau ac i gynnig cymhellion penodol i ddenu busnesau newydd i'r lleoliadau o fri hyn yng Nghymru. Mae'r dyraniad refeniw, £0.927, (BEL 3755) yn cefnogi'r astudiaethau dichonoldeb a'r achosion busnes. Mae ymchwil i'r Ardaloedd Menter wedi dangos bod cynlluniau seiliedig ar ardaloedd yn gallu cael dylanwad cadarnhaol ar gyflogaeth ac ar y GDP rhanbarthol[2]

Mae prosiectau strategol wedi bwrw gwreiddiau yng ngweithgarwch datblygu busnes y sector ac felly nid oes dyraniad cyfalaf wedi’i ddynodi.

 

Amcanion yr Ardaloedd Menter yw:

 

·         Tyfu'r economi leol a darparu swyddi newydd

·         Gweithredu fel catalydd ar gyfer twf mewn mannau eraill yng Nghymru

·         Gwneud yr Ardal Fenter yn fwy deniadol i fuddsoddwyr

·         Cryfhau gallu economi Cymru i gystadlu.

 

Cyhoeddir adroddiadau am berfformiad ac allbynnau'r Ardaloedd Menter (Dangosyddion Perfformiad Allweddol) ddwywaith y flwyddyn. Mae adroddiad am flwyddyn lawn 2015/6 ar gael yma: http://gov.wales/topics/businessandeconomy/growing-the-economy/enterprisezones/?lang=cy

 

5.7      Ardaloedd Twf Lleol

 

Yn 2017-18, mae'r gyllideb flynyddol ar gyfer datblygu a chyflawni, £0.263m, (BEL 4051) yn cefnogi nifer o flaenoriaethau rhanbarthol gan gynnwys y strategaeth ardaloedd twf lleol a chynlluniau rhanbarthol a thrawsffiniol eraill, gan gynnwys Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

 

Mae adroddiadau'r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ym Mhowys ac yn Nyffryn Teifi wedi cynnig argymhellion eang eu hystod sy'n croesi ffiniau portffolios nifer o Weinidogion.  Mae nifer o gamau'n cael eu datblygu drwy gydweithio ag awdurdodau lleol a'r sector preifat gan gynnwys gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus megis gwasanaethau trenau ychwanegol ar Brif Lein y Cambrian.

 

Mae gwybodaeth am yr Ardaloedd Twf Lleol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:  http://gov.wales/topics/businessandeconomy/growing-the-economy/local-growth-zones/?lang=cy

 

5.8      Ardaloedd Gwella Busnes

 

Mae Ardaloedd Gwella Busnes bellach yn rhan o'r Portffolio Cymunedau a Phlant.

 

5.9      Cymorth ar gyfer Allforio a Mewnfuddsoddi

 

Yn 2017-18, dyrannwyd £1.892m (BEL 3754) i gefnogi masnach a mewnfuddsoddi a fydd yn denu amcangyfrif o £1.299m mewn cyllid Ewropeaidd drwy gyfrwng Prosiectau ERDF Busnes Cymru. Bydd ysgogi allforion i farchnadoedd newydd ac i farchnadoedd sy'n bodoli eisoes yn flaenoriaeth o bwys yn ystod y pum mlynedd nesaf.  Rydym yn helpu cwmnïau i dyfu eu busnes drwy allforio ac mae gennym ystod gynhwysfawr o wasanaethau i'w helpu i wireddu'r uchelgais honno. Gallwn eu helpu i ddod yn barod i allforio ac yn barod i'r farchnad ac wedyn i'w cysylltu â chyfleoedd a chwsmeriaid yn eu dewis marchnadoedd drwy helpu cwmnïau i deithio i farchnadoedd tramor, i arddangos mewn ffeiriau masnach, neu i gyfarfod â darpar gwsmeriaid.

 

Cyflawnir gweithgarwch mewnfuddsoddi drwy ddigwyddiadau, nawdd, seminarau a thanysgrifiadau ymchwil. Mae hefyd yn cynnwys cymorth ar gyfer ymweliadau â Chymru. Bydd y canlyniadau'n cael eu monitro'n ofalus o ran darparu gwerth am arian. Bydd pob gwariant yn cael ei gyfiawnhau ar sail achos busnes manwl.

Y llynedd, darparwyd cymorth i 385 o gwmnïau drwy gyfrwng 620 o ymyraethau unigol. Hyd at ddiwedd mis Medi eleni, rydym wedi rhoi cymorth gwerth £26.9m i gytundebau masnach o'i gymharu â tharged o £60m.

 

O ran perfformiad ym maes masnach, bydd gwerth am arian yn cael ei fesur ar sail gwerth y busnes allforio newydd a sicrheir gan y cwmnïau rhoddir cymorth iddynt.  Yn 2015-16, cofnodwyd gwerth £69m o archebion mewn busnes newydd.  Roedd hyn yn golygu bod yr adenillion ar y buddsoddi'n dros 41:1 o ran gwariant net ar raglenni. Rhoddwyd cymorth i 385 o gwmnïau drwy gyfrwng 620 o ymyraethau unigol.

 

Yn adroddiad blynyddol UKTI ar gyfer 2015-16, adroddwyd bod 97 o brosiectau mewnfuddsoddi wedi'u sicrhau yng Nghymru; roedd hyn fymryn yn is na'r lefelau uwch nag erioed a gofnodwyd yn y flwyddyn flaenorol, ond dyma'r ail nifer uchaf erioed o hyd. Roedd hyn yn cyfateb i 4.4% o gyfanswm nifer y prosiectau mewnfuddsoddi a sicrhawyd gan y Deyrnas Unedig ar gyfer 2015-16.  Crëwyd bron 5,500 o swyddi yng Nghymru y llynedd yn sgil buddsoddi tramor (ychydig dros 7% o gyfanswm nifer y swyddi newydd yn y Deyrnas Unedig).

 

Mae ein rhaglenni cymorth i allforio eisoes yn cydymffurfio â safonau Llywodraeth Cymru ym maes cydraddoldeb, cynaliadwyedd a'r Gymraeg. Mae'r gweithgarwch mewnfuddsoddi sy'n digwydd y tu allan i Gymru wedi cael ei eithrio o dan y Safonau newydd ar gyfer y Gymraeg. Felly, ni fydd y Safonau'n golygu gwariant ychwanegol wrth gynhyrchu llenyddiaeth ar gyfer marchnadoedd allanol.

 

5.10   Cymorth i'r diwydiant dur

 

Mae pecyn o gymorth posibl ar gael o hyd i gynigwyr yn sgil proses gwerthu Tata Steel yng Nghymru ac mae hyn yn cynnwys cynigion gan Tata neu gydfenter bosibl. Mae manylion y pecyn posibl yn fasnachol gyfrinachol.

 

Gweler diweddariad ynglŷn â chyfarfod diweddaraf Tasglu Tata Steel a gynhaliwyd ym mis Awst yma:  http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2016-new/tatataskforce/?lang=cy

 

Darperir cymorth ehangach i'r diwydiant dur drwy fecanweithiau presennol y cymorth a roddir i'r Sectorau a Busnes, gan gynnwys Busnes Cymru.

 

5.11   Cymorth i Fentrau Cymdeithasol

 

Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu arian ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru.  Mae'r ddau gorff yn helpu i wireddu amcanion strategol Llywodraeth Cymru gyda golwg ar ddatblygu'r farchnad mentrau cymdeithasol a darparu cymorth busnes arbenigol wedi'i deilwra i helpu mentrau cymdeithasol nad ydynt yn gymwys ar gyfer gwasanaethau cymorth busnes sy'n cael eu hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r cyllid ar gyfer 2017-18 wedi'i gadarnhau ar ôl adolygiadau gwerth am arian annibynnol.

 

Dyrannwyd £30,000 i Gwmnïau Cymdeithasol Cymru yng nghyllideb 2017-18 i alluogi'r corff i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi penodol ar gyfer sefydlu cwmnïau cymdeithasol i dyfu'r sector yng Nghymru.

 

Bydd Canolfan Cydweithredol Cymru'n cael arian craidd gwerth £100,000 yn 2017-18 i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi i dyfu'r sector cydweithredol a chymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru a bydd yn darparu cymorth busnes arbenigol i fentrau cymdeithasol nad ydynt yn gymwys ar gyfer gwasanaethau cymorth busnes sy'n cael eu cyllido gan yr UE.

 

Bydd cyllid gwerth £1.5m gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd ariannol 2016-2018 i Fentrau Cymdeithasol (BEL 3894) hefyd yn cefnogi Prosiect Busnesau Cymdeithasol Cymru sy'n cael £11m o nawdd ERDF ac yn gweithredu ochr yn ochr â gwasanaeth prif ffrwd Busnes Cymru sy'n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd. Mae prosiect Busnesau Cymdeithasol Cymru'n darparu cymorth busnes arbenigol i fusnesau cymdeithasol sydd ag uchelgais i dyfu. Gallai hyn olygu trawsnewid busnes mewn perchnogaeth draddodiadol neu wasanaeth cyhoeddus a chreu model dan berchnogaeth gweithwyr ac fe allai gynnwys trosglwyddo ased cymunedol neu beidio. Mae hefyd yn helpu Elusennau i sefydlu canghennau masnachu i fwrw ymlaen â syniadau masnachol.

 

5.12   Partneriaeth ar gyfer Twf 2013-2020 - Strategaeth Twristiaeth

 

Mae'r gyllideb refeniw ar gyfer Twristiaeth a Marchnata, £15.762m (BEL 6250) yn cefnogi gweithgarwch hyrwyddo a buddsoddi cyfalaf. Mae cyllidebau'r sector wedi cael eu hailflaenoriaethu i ddarparu cyllideb  ychwanegol o 0.5m ar gyfer marchnata i hyrwyddo Cymru ac mae'n cefnogi gweithgarwch mewnfuddsoddi.  Mae £5m ychwanegol i Croeso Cymru yn 2017-18 wedi'i gynnwys yng nghytundeb y gyllideb hefyd er mwyn parhau i hyrwyddo Cymru.

 

Lansiwyd Partneriaeth ar gyfer Twf, Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2020 ym mis Mehefin 2013. Mae Twristiaeth yn perfformio'n gryf yng Nghymru. Roedd y gwariant gan ymwelwyr fu’n aros yng Nghymru yn 2015 yn  uwch nag erioed, sef £2.385 biliwn, o'i gymharu â £1.934 biliwn yn 2012, ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o gynnydd o 10% mewn termau real erbyn 2020.

 

Roedd y strategaeth hefyd yn nodi'r cyfle i gynyddu nifer yr ymwelwyr rhyngwladol a'u gwariant yng Nghymru drwy elwa o'r cynnydd posibl yn nifer yr ymwelwyr (40m erbyn 2020) a nodwyd gan Visit Britain.  Mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael am flwyddyn lawn 2015 yn awgrymu bod twf calonogol wedi bod yn nifer yr ymwelwyr rhyngwladol sydd wedi  ymweld â Chymru dros y pedair blynedd diwethaf; unwaith eto rydym ar y trywydd iawn i wireddu nodau'r strategaeth. Mae ymweliadau â Chymru gan ymwelwyr rhyngwladol wedi cynyddu 14% er 2010 a'r gwariant ar yr ymweliadau hyn wedi cynyddu 18%.  Mae hyn yn gwrthdroi'r patrwm cyn 2012 lle'r oedd nifer yr ymweliadau â Chymru gan ymwelwyr rhyngwladol yn gostwng.

 

Mae'r targed ar gyfer twf yn un heriol ond rydym yn ffyddiog y gallwn sicrhau'r twf parhaus yn y farchnad gartref a sicrhau'r gyfran fwyaf posibl o'r cynnydd a ragwelir yn nifer yr ymwelwyr rhyngwladol i helpu i gynyddu a lledaenu'r ymweliadau yn ystod pob rhan o'r flwyddyn a ledled Cymru. 

 

Dros y cyfnod 2017-18 tan 2020-21, buddsoddir £13m o arian cyfalaf (BEL 6250) i gefnogi'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth a'r prosiectau strategol yn Symud Cymru Ymlaen.  

 

Mae Adolygiad o Gynnydd o'r Strategaeth Partneriaeth ar gyfer Twf ar y gweill ac fe'i cyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

5.13   Sectorau â Blaenoriaeth

 

Mae'r buddsoddi yn ein sectorau â blaenoriaeth wedi'i flaenoriaethu a'i gysoni er mwyn gallu targedu'r buddsoddi a chynlluniau meithrin gallu a fydd, gyda'i gilydd, yn creu amgylchedd busnes cynaliadwy.  Mae hyn yn gysylltiedig â'r amcanion yr ydym wedi'u datgan ynglŷn â chefnogi twf swyddi ac economi Cymru'n gyffredinol.

 

Yn 2015-16, cefnogwyd dros 40,000 o swyddi ledled Cymru. Roedd hyn yn welliant eto ar y 38,000 y llwyddwyd i'w cefnogi yn y flwyddyn flaenorol. Defnyddir ystod eang o ddangosyddion i fesur y cyflawni gan y meysydd gweithredol a’r rheini’n cynnwys cyfuniad o weithgarwch a chanlyniadau. Maent wedi'u datblygu i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau gan WEFO pan ddefnyddir cyllid Ewropeaidd ac i ddarparu dangosyddion lleol ar gyfer meysydd busnes unigol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystadegau ar lefel sectorau sy'n cynnwys data am Werth Ychwanegol Crynswth (GCA), swyddi gweithwyr, enillion fesul awr yn ôl y ddau ryw, cyflogaeth yn ôl lefel cymhwyster a rhywfaint o ystadegau ar lefel awdurdodau lleol:

http://wales.gov.uk/statistics-and-research/priority-sector-statistics/?lang=cy

 

Mae manylion y cyllidebau refeniw a chyfalaf ar gyfer y sectorau â blaenoriaeth i'w gweld yn nhablau Llinell Wariant y Gyllideb yn Atodiad B.

 

Mae Busnes Cymru'n dal i gael llawer o ymholiadau (18,000) a'r rheini'n cael eu sbarduno gan y gwasanaeth diwygiedig sy’n cynnwys Cyflymu Twf a'r gwasanaeth cymorth busnes newydd arlein (BOSS). Ers mis Mai 2016, mae BOSS wedi cofrestru dros 8,000 o ddefnyddwyr newydd.

 

Hyd yn hyn eleni, rhoddwyd cyngor busnes i 3,638 o unigolion a busnesau ac yn sgil hyn, mae Busnes Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged ar gyfer swyddi newydd yn y flwyddyn hon.

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru ar y trywydd iawn i ddarparu rhagor o gymorth buddsoddi i fusnesau, tua £10m, a chynnydd gwerth rhyw £5m mewn allforion. Mae hyn yn elfen integredig o'r pecyn cymorth ehangach a gynigir i fentrau bach a chanolig ac i entrepreneuriaid ac mae’n cynnig y posibilrwydd o ddenu arian ychwanegol.

 

5.14   Gwariant Ataliol

 

Mae ein cyllideb yn canolbwyntio ar greu'r amgylchedd iawn ar gyfer twf economaidd a chefnogi creu a chadw swyddi. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall cyflogaeth gynnig gwarchodaeth gref i bobl rhag tlodi.  Mae tlodi parhaus yn niweidiol i unigolion ac i gymunedau ac fe all arwain at niwed materol a seicolegol, yn ogystal ag at ganlyniadau cymdeithasol ehangach. Mae mynd i'r afael â'r problemau sy'n cael eu hachosi gan dlodi ac ymateb iddynt yn ddrud.  Drwy gefnogi swyddi, a chymryd camau i geisio lliniaru rhai o'r heriau sy'n wynebu pobl wrth iddynt geisio dod o hyd i waith, ein nod yw ei gwneud yn llai tebygol y bydd teuluoedd yn wynebu tlodi, yn enwedig tlodi dwys a pharhaus, gan osgoi'r costau tymor hir a ddaw i ran y gymdeithas yn sgil hyn.

 

Rydym wedi parhau i seilio'n penderfyniadau ar waith ataliol er mwyn atal problemau rhag digwydd neu rhag gwaethygu.Mae tystiolaeth ar gael mai gwaith sy'n talu'n dda yw'r llwybr gorau i ddianc rhag tlodi ac mai dyna sy'n cynnig y warchodaeth orau rhag tlodi i'r rheini a all fod mewn perygl. Rydym yn parhau i greu cyfleoedd i unigolion a theuluoedd drwy gynlluniau a buddsoddi wedi'u targedu ledled Cymru.

 

6.0      TRAFNIDIAETH - ARIANNU MEYSYDD RHAGLENNI GWARIANT

O'i gymharu â chyllideb Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017-18, mae'r dyraniad refeniw, £84.852m, wedi'i gynyddu (ac mae £80m o'r swm hwnnw'n gyllid nad yw'n arian parod).

 

Y dyraniad cyfalaf ar gyfer y cyfnod 2017-18 tan 2020/21 yw £1.173bn i gefnogi'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol. Pan fydd y ffigur hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r cyllid a ddynodwyd ar gyfer yr M4 a Metro De Cymru a gedwir yn y gronfa ganolog wrth gefn, mae hyn yn adlewyrchu lefel sylweddol o gyllid cyfalaf ar gyfer y Seilwaith Trafnidiaeth dros gyfnod y gyllideb cyfalaf sydd ar y ffordd. Serch hynny, bydd y cynlluniau y bwrir ymlaen â hwy'n parhau i adlewyrchu penderfyniadau anodd y mae angen eu gwneud er mwyn addasu’r gyllideb gyfalaf a fydd draean yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd nag yr oedd yn 2010-11. Mae'r dyraniad ychwanegol o £80m o'r gronfa wrth gefn nad yw'n arian parod yn cefnogi'r gofynion cyllidebol ar gyfer rhwydwaith y traffyrdd a'r cefnffyrdd. 

 

Trafnidiaeth

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000

Newid

2017-18

£’000

Cyllideb
Ddrafft

 2017-18
£’000

Refeniw

295,168

4,852

300,020

Nid yn Arian Parod

108,691

80,000

188,691

Cyfanswm

403,859

84,852

488,711

 

Trafnidiaeth

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017-18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

278,666

336,486

226,877

254,867

346,428

1,164,658

FTR

0

5,000

2,200

1,200

0

8,400

Cyfanswm

278,666

341,486

229,077

256,067

346,428

1,173,058

 

6.1      Gweithrediadau Rhwydwaith y Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

 

Cam Gweithredu Gweithrediadau Rhwydwaith y Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000

Newid
£’000


Cyllideb
Ddrafft
2017-18

£’000

Refeniw

51,789

0

51,789

Nid Arian Parod

108,691

80,000

188,691

CYFANSWM

160,480

80,000

240,480

 

 

Cam Gweithredu Gweithrediadau Rhwydwaith y Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

80,600

79,493

69,166

69,500

79,613

297,772

 

Llywodraeth Cymru sy'n uniongyrchol gyfrifol am Rwydwaith y Traffyrdd a'r Cefnffyrdd, un o asedau seilwaith pwysicaf Cymru.  Mae'r ased yn cefnogi cyflawni llawer o flaenoriaethau 'Symud Cymru Ymlaen' ac uchelgais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a hynny yn y rhan fwyaf o feysydd polisi, gan gynnwys, yr economi, iechyd ac addysg ac mae iddo gost adnewyddu dadbrisiedig sydd dros £15bn. Mae cyllid digonol ar gyfer cynnal y rhwydwaith felly'n hanfodol er mwyn cynnal ei gyflwr a'r lefelau gwasanaeth sy'n ofynnol fel y gall Llywodraeth Cymru gyflawni ei dyletswyddau statudol o ran diogelwch a gwireddu ei hamcanion o ran polisi i Gymru.

 

Dros y cyfnod o bedair blynedd, bydd cyllidebau cynnal a chadw'n cael eu monitro'n barhaus i sicrhau ein bod yn ymateb i waith adweithiol ac yn blaenoriaethu buddsoddiadau cyfalaf yn y mannau lle mae ei angen fwyaf.

 

Mae'r cynlluniau buddsoddi'n cefnogi strategaeth gwario i arbed a fydd yn cynnig gwell gwerth am arian yn y tymor hir ac yn lliniaru'r pwysau refeniw ym mlynyddoedd y dyfodol 

 

 

 

6.2      Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

 

Cam Gweithredu Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

 

£’000

Newid
£’000

Cyllideb
Ddrafft
 2017-18
£'000

Refeniw

185,679

2,152

187,831

 

Mae'r gyllideb yn cefnogi Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a'r Gwasanaeth Awyr o Fewn Cymru.  Rhoddir manylion y cynnydd yn y gyllideb refeniw, sef £2.152m yn Atodiad A. Mae'n cynnwys:

 

·         cynnydd o £2.948m ar gyfer gweithgareddau hedfanaeth ym Maes Awyr Caerdydd a Maes Awyr Sain Tathan (wedi'i drosglwyddo o Sectorau a Busnes);

·         gostyngiad o ryw £1.096m ar gyfer Gwasanaethau Rheilffyrdd (gweler rhagor o fanylion isod): a

·         dyraniad ychwanegol o £0.3m ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, yn dilyn y cytundeb ynghylch y gyllideb.  

 

Masnachfraint y rheilffyrdd yw prif elfen wariant y Cam Gweithredu hwn. Mae costau cytundeb y fasnachfraint wedi cynyddu'n flynyddol ac yn dal i gynyddu oherwydd y gwasanaethau ychwanegol ac oherwydd y cynnydd chwyddiannol yn y contractau yn sgil y Mynegai Prisiau Manwerthu a Chyflogau ar Gyfartaledd. Serch hynny, rhagwelir y bydd modd ymdopi â'r gostyngiad hwn ar gyfer 2017-18 drwy gyfrwng elfennau perfformiad y contract ac oherwydd y rhagwelir y bydd modd lliniaru'r cynnydd a broffwydir yn y costau am fod lefelau chwyddiant RPI yn ddiweddar yn is nag a ragwelwyd gynt.  Bydd gofyn monitro hyn yn barhaus.

 

6.3   Buddsoddi yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd a Hedfanaeth

 

Cam Gweithredu Cynlluniau Ffyrdd, Rheilffyrdd a Hedfanaeth

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

£’000

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

Cyfanswm

 

£’000

£’000

£’000

£’000

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

123,719

180,746

110,011

137,667

224,115

652,539

FTR

0

5,000

2,200

1,200

0

8,400

Cyfanswm

123,719

185,746

112,211

138,867

224,115

660,939

 

Mae'r gyllideb yn cyllido gwelliannau cyfalaf i'r ffyrdd, y rheilffyrdd a hedfanaeth.  Mae dyraniad cyfalaf ychwanegol yn 2017-18 i gwblhau gwireddu'r blaenoriaethau seilwaith sydd wrthi'n cael eu hadeiladu megis gwella Adran 2 yr A465, Ffordd Osgoi'r Drenewydd, gwelliannau diogelwch yn Nhwneli Brynglas a Ffordd Gyswllt Bae'r Dwyrain.  Bydd y buddsoddi ar gyfer 2018-19 a'r tu hwnt yn adlewyrchu'r blaenoriaethau yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yng nghyd-destun y gyllideb sydd ar gael. Mae'r cyllid ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac elfen o'r cyllid ar gyfer Metro De Cymru dros y cyfnod hwn yn cael eu cadw yn y gronfa wrth gefn ar hyn o bryd yn barod i'w dyrannu pan fydd y rhaglenni cyflawni'n cael eu cadarnhau ac yn dibynnu a ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer yr M4.

 

Ar gyfer y rheilffyrdd, bydd y gyllideb yn cyllido cyflawni Cam 2 Metro De Cymru, datblygu Metro Gogledd Cymru, cwblhau cynllun gwella amlder Glyn Ebwy, a chynllun cwtogi amser y daith o'r gogledd i'r de, yn ogystal â gwella gorsafoedd a datblygu arian cyfatebol posibl ar gyfer gorsaf drenau newydd a gwella gorsafoedd.

 

Mae cyllid FTR wedi'i ddarparu hefyd er mwyn cefnogi  buddsoddi yn y sector hedfanaeth yn y dyfodol.

 

6.4      Teithio Cynaliadwy

 

Cam Gweithredu Teithio Cynaliadwy

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000



Newid
£’000

Cyllideb
Ddrafft
 2017-18
£'000

Refeniw

52,936

2,700

55,636

 

Cam Gweithredu Teithio Cynaliadwy

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

67,447

69,347

40,800

40,800

35,800

186,747

 

Mae'r gyllideb hon yn cefnogi buddsoddi mewn trafnidiaeth integredig, teithio llesol, Teithio'n Rhatach ar Fysiau, cardiau clyfar a chynlluniau bysiau, trenau a ffyrdd lleol a gynigir gan awdurdodau lleol. Mae'r cynnydd refeniw o £2.7m yn berthnasol i ddyraniadau ychwanegol fel rhan o'r cytundeb ynghylch y gyllideb: y Gronfa Seilwaith Porthladdoedd £2m, yr astudiaeth ddichonoldeb i lwybr beicio gwerth £0.2m a llwybrau mwy diogel i’r ysgol gwerth £0.5m. Manylir ar y rhain yn Atodiad A.

Gan fod y Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol yn cael ei gynnal mae'r cyllid cyfalaf ar gyfer cronfa blaenoriaethau trafnidiaeth lleol wedi'i warchod yn  2016-17 ac yn 2017-18.

 

Mae'r amlen gyllido gyffredinol ar gyfer tocynnau rhatach wedi'i chadw tra bo trafodaethau ar y gweill â'r diwydiant ynghylch cyllido yn y cyfnod tair blynedd nesaf.  Bydd y pecyn cyllido terfynol yn adlewyrchu natur y cynllun sy'n cael ei dywys gan y galw, a rhwymedigaethau Awdurdodau Lleol yn unol â'r egwyddor 'dim gwell, dim gwaeth'.

 

 

 

 

6.5      Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

 

Cam Gweithredu Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

2017-18

£’000



Newid
£’000

Cyllideb
Ddrafft
2017-18

£’000

Refeniw

4,764

0

4,764

 

Cam Gweithredu Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

£’000

Dyraniadau'r Gyllideb Ddrafft 2017- 18

2017-18

£’000

2018-19

£’000

2019-20

£’000

2020-21

£’000

Cyfanswm

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

6,900

6,900

6,900

6,900

6,900

27,600

 

Mae'r gyllideb refeniw yn cefnogi trefniadau ymgysylltu a chyllido â phartneriaid allanol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i ostwng y nifer sy'n cael eu hanafu, gan ddefnyddio strwythurau llywodraethu diogelwch ar y ffyrdd i gefnogi gweithredu'r Cynllun Cyflawni Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae'r Cynllun hwn yn cyflwyno ein hymagwedd strategol at ddiogelwch ar y ffyrdd hyd at 2020. 

 

Mae'r gyllideb cyfalaf yn cefnogigwelliannau cyfalaf peirianegol i wella diogelwch rhwydweithiau'r cefnffyrdd a’r ffyrdd lleol. 

 

7.0      TRAFNIDIAETH - PRIF Bolisïau

 

Darperir rhagor o wybodaeth mewn ymateb i'r ceisiadau penodol gan y Pwyllgor fel a ganlyn:

7.1      Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol

 

Ar gyfer 2017-18, bydd y blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth yn cael eu gosod yng nghyd-destun y gyllideb sydd ar gael a'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2015. Mae hwn yn gosod y blaenoriaethau buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith ac mae'n canolbwyntio ar y prosiectau y gellid eu cyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae datganiad am hyn ar gael yn:

 

http://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2015/10383639/?lang=en

 

Mae gan drafnidiaeth ran hanfodol i'w chwarae'n gwella gallu Cymru i gystadlu'n economaidd a'r cyfle i fanteisio ar swyddi a gwasanaethau. Mae'r Cynllun yn dweud sut a pha bryd y gellid cyflawni'r gwelliannau i rwydweithiau'r ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus er mwyn helpu busnesau i ffynnu a sicrhau bod pobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy sy'n eu bodloni. 

 

Mae modd deall sut mae'r system drafnidiaeth yn perfformio, asesu'r angen am ymyrryd ac ystyried effeithiau cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd ein cynlluniau ar gyfer y system drafnidiaeth, a hynny ar sail tystiolaeth gadarn. Mae'r cynlluniau yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol yn targedu pum maes sy'n flaenoriaeth: twf economaidd, trechu tlodi, teithio cynaliadwy a diogelwch, a gwella'r llwybrau at gyflogaeth a gwasanaethau gan ein helpu i gyflawni ein hamcanion llesiant ehangach. Bydd y buddsoddiadau a nodwyd yn sicrhau system drafnidiaeth fwy integredig a chynaliadwy i bawb. 

 

Bydd camau gweithredu'r Cynllun:

 

·           Yn sicrhau bod gwell trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gael, gan wella ansawdd y drafnidiaeth, ei diogelwch a'i gwneud yn fwy hygyrch.

·           Yn help i liniaru unrhyw anfantais a wynebir gan grwpiau sy’n cael eu gwarchod a'r rheini sydd ar incwm isel drwy ddarparu trafnidiaeth a rhwydwaith cyhoeddus integredig o ansawdd (gan gynnwys darparu gwybodaeth ddwyieithog hwylus)

·           Yn cynnal y cyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau sy'n gymdeithasol angenrheidiol.

 

Mae set o setiau data cenedlaethol yn cynnig gwybodaeth gyson y gellir ei chymharu ar gyfer Cymru gyfan ac maent yn dangos yr ardaloedd lle nad yw'r system drafnidiaeth yn perfformio'n ddigon da. Bydd y setiau data'n cael eu diweddaru'n rheolaidd ac fe'u defnyddir i fonitro sut mae'r system yn perfformio, gan gynnig rhybuddion cynnar ynghylch materion sy'n codi a gwybodaeth am dueddiadau yn y tymor hwy. Mae'r data trafnidiaeth yn cael eu cyfuno â ffynonellau data eraill, megis data'r cyfrifiad a data am ddefnydd tir, i roi gwybodaeth am effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol y system drafnidiaeth. Mae'r data trafnidiaeth yn cael eu rhannu'n bum categori - amserau teithio, nifer y teithiau a wneir, data am ddiogelwch, gwybodaeth atodol a gwybodaeth gyd-destun,

 

Dogfen fyw yw'r Cynllun ac fe'i diweddarir i adlewyrchu cynlluniau cyfalaf y Llywodraeth ar gyfer y dyfodol.

 

7.2      Trafnidiaeth i Gymru

 

Mae'r cwmni bellach wedi'i sefydlu a'r costau cychwyn yn dod o'r cyllidebau blaenorol.  Bydd y cyllid ar gyfer 2017-18 a blynyddoedd y dyfodol (refeniw a chyfalaf) yn cael eu pennu pan dderbynnir Cynllun Busnes 2017-18 y cwmni. 

 

Cwmni 'hyd braich' cyfyngedig drwy warant yw Trafnidiaeth i Gymru.  Ei brif nod yw cynghori Llywodraeth Cymru am faterion sy'n berthnasol i Drafnidiaeth ac, yn benodol, i fwrw ymlaen â chyflawni Masnachfraint Newydd Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru.

 

Goruchwylir y cwmni gan Fwrdd Cyfarwyddwyr sy'n cynnwys Uwch Weision Sifil ac mae'n cael ei gadeirio gan Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol. Ar hyn o bryd, mae gan y Bwrdd wyth o gyfarwyddwyr (gan gynnwys y cadeirydd). Mae’r rhain yn cynnwys pum cyfarwyddwr anweithredol, sy'n golygu bod modd manteisio ar brofiad ac arbenigedd ehangach mewn meysydd megis Adnoddau Dynol, cyllid, darparu a llywodraethu seilwaith, a thri chyfarwyddwr gweithredol sydd ag arbenigedd penodol ym maes eu cyfrifoldeb.

 

Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni'n cael ei llywodraethu gan lythyr dirprwyaeth a anfonir oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol; cytundeb rheoli rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni'n dweud beth yw pwrpas y cwmni, ei atebolrwydd a'i gyfrifoldebau; llythyr cylch gwaith; a chynllun busnes blynyddol sy'n dweud sut y bydd y cwmni'n cyflawni'r amcanion a'r canlyniadau a restrir yn y llythyr cylch gwaith.

 

Mae'r trefniadau llywodraethu'n adlewyrchu'r awydd i sicrhau atebolrwydd a chyfrifoldeb uniongyrchol ar lefel uwch (y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol) am gaffael y gweithredwr a'r partner datblygu ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau a Metro De Cymru. Gwerth hyn o ran cyfalaf fydd £734m a'i werth refeniw fydd oddeutu £3.5bn. Felly dyma un o'r prosiectau caffael mwyaf sylweddol a wneir gan Lywodraeth Cymru.

 

7.3      Ffordd Liniaru'r M4 a Gwelliannau Mawr i'r Ffyrdd

 

Mae datblygu'r M4 o amgylch Casnewydd o bwys strategol i lewyrch economi Cymru ac mae busnesau Cymru'n gefnogol iawn iddo. Bydd y prosiect sydd wedi bod yn destun ymgynghori helaeth, yn ei gwneud yn haws i bobl, nwyddau a gwasanaethau Cymru gyrraedd marchnadoedd rhyngwladol drwy fynd i'r afael â phroblemau trafnidiaeth ar un o'r prif byrth i Gymru. Yn ystod 2016 mae gwaith wedi 'i gwblhau i asesu'r dull adeiladu gorau, i weld pa dir y byddai ei angen a pha gamau i amddiffyn yr amgylchedd, gan arwain at gyhoeddi Gorchmynion drafft. Bydd y cynigion bellach yn destun craffu mewn Ymchwiliad Cyhoeddus a fydd yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd. Mae'r cyllid ar gyfer y cynllun wedi'i ddynodi ac, ar hyn o bryd, fe'i cedwir yn y gronfa ganolog yn amodol ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus.

 

Mae'r gwaith yn parhau i uwchraddio Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, a'r gwaith mawr sydd ar y gweill rhwng Gilwern a Brynmawr. Pan fydd hwn wedi'i orffen, bydd yn darparu cerbydlon ddeuol o safon uchel i gysylltu ag Ardal Fenter Glyn Ebwy drwodd i Ganolbarth Lloegr.

 

Mae gwaith mawr arall ar y gweill hefyd ar hyn o bryd, gan gynnwys Ffordd Gyswllt Bae'r Dwyrain i wella'r cysylltiadau ag Ardal Fenter Capitol Caerdydd, Ffordd Osgoi'r A483 yn y Drenewydd i wella seilwaith economaidd y Canolbarth ac adnewyddu mawr ar dwneli Brynglas ar yr M4 yng Nghasnewydd i wella cydnerthedd y coridor trafnidiaeth pwysig hwn sy'n gwasanaethu economi De Cymru yn ei chyfanrwydd. 

 

7.4      Rhwydwaith y Cefnffyrdd a'r Traffyrdd

 

Ar ôl yr archwiliad annibynnol ddiwedd 2013/2014 ac adolygiad 2015 o dryloywder ac amlygrwydd y costau, mae asiantaethau'r cefnffyrdd (TRA) wedi parhau i wneud camau breision tuag at gytuno i sicrhau arbedion wrth gyflawni dyletswyddau statudol. Nodwyd £6m yn 2016-17 ac mae targed o £8m wedi'i bennu ar gyfer 2017-18.

 

Mae'r arbedion yn canolbwyntio'n gyffredinol ar dri maes Llawlyfr Cynnal a Chadw'r Cefnffyrdd, yr atodlen cyfraddau a chostau rheoli ac fe'u cyflawnir drwy ddilyn arferion gweithio mwy effeithlon ac arloesol a defnyddio technoleg newydd.  Bydd yn hanfodol ail-fuddsoddi’r arbedion hyn yn y rhwydwaith er mwyn eu gosod yn erbyn gwariant yn y dyfodol, a bydd hyn yn sail i egwyddorion dull buddsoddi i arbed, rhagweithiol.

 

Mae cytundebau lefel gwasanaeth Cymru Gyfan wedi'u rhoi ar waith ers mis Ebrill 2016 i'w defnyddio gan y TRA wrth gaffael gwasanaethau eu cyflenwyr.  Bydd y cytundebau cyflawni gwasanaeth unffurf hyn bellach yn golygu bod modd cymharu costau ar sail debyg i'w tebyg ar draws rhanbarthau a sefydliadau cyflawni.

 

Ochr yn ochr â hyn, argymhellwyd cyfres o gamau gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ym mis Awst 2015 a oedd yn canolbwyntio ar wella gwerth am arian wrth reoli a chynnal a chadw rhwydwaith y traffyrdd a'r cefnffyrdd. 

 

Mae System Wybodaeth Integredig Llywodraeth Cymru am y Ffyrdd yn gyflawn yn ei hanfod ac mae'n cael ei defnyddio i reoli cyflwr asedau sydd ar gael eisoes ac i storio data ar gyfer prosiectau priffyrdd newydd. Lansiwyd y Dull Cenedlaethol o ymdrin â gwaith Ffyrdd a Strydoedd yng Nghymru ym mis Mehefin 2016. Drwy gydweithio ag ymgymerwyr statudol ac awdurdodau'r priffyrdd, gall hyn wella sut y mae gwaith ffyrdd a strydoedd yn cael eu rheoli er budd Cymru o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.  

 

7.5      Teithio Llesol

 

Mae Llywodraeth Cymru'n gweld teithio llesol yn elfen bwysig o ddatblygu ein strategaethau trawsbynciol 'Iach ac Egnïol' ac 'Unedig a Chysylltiedig'.  Mae gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol  uwch gyfrifoldeb dros Deithio Llesol, ond, fel yr adlewyrchir yn y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni, mae gan lawer o bortffolios ran yn gwireddu ein huchelgais i sicrhau bod mwy o bobl yn cerdded ac yn beicio wrth deithio bob dydd. Mae pob portffolio allweddol wedi'i gynrychioli ar y Bwrdd Teithio Llesol.

 

Cefnogir Teithio Llesol drwy gyfrwng nifer o linellau cyfalaf a refeniw yn y gyllideb.  Mae'r rhan fwyaf o'r arian refeniw bellach wedi'i drosglwyddo i goffrau Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Bydd buddsoddi yn seilwaith llwybrau teithio llesol lleol a'r gwelliannau'n digwydd yn bennaf drwy gyfrwng y Gronfa Drafnidiaeth Leol, y Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a'r Grant Diogelwch ar y Ffyrdd. Mae nifer penodol a maint y cynlluniau teithio llesol yn amrywio bob blwyddyn yn ôl y math o geisiadau a gyflwynir gan awdurdodau lleol, pa mor gryf yw'r ceisiadau hynny a'u maint. Gan amlaf, dyfernir rhwng £11-15m bob blwyddyn i gynlluniau sydd o fudd i deithio llesol. Mae'r cyllid ar gyfer Teithio Cynaliadwy Cerdded a Beicio wedi'i warchod dros y cyfnod o bum mlynedd hyd at 2021. Mae'r cyllid ar gyfer y gronfa blaenoriaethau trafnidiaeth lleol wedi'i warchod yn 2016-17 ac yn 2017-18.

 

Byddwn hefyd yn cyllido'n uniongyrchol welliannau teithio llesol sy'n gysylltiedig â chefnffyrdd sy'n bodoli eisoes, neu sy'n rhan o gynlluniau mawr newydd. Darperir cyllideb o £1.65m y flwyddyn ar gyfer y cyntaf, a bydd yr ail yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn gan ei fod yn gysylltiedig â lefel gyffredinol y cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau mawr a natur y cynlluniau a gyflawnir.  Mae prif ffrydio gwireddu amcanion teithio llesol yn ystyriaeth bwysig wrth gyflawni pob cynllun trafnidiaeth.

 

 

Buddsoddi yng Ngwasanaethau a Seilwaith y Rheilffyrdd (gan gynnwys y Metro)

 

Mae cyllido'r fasnachfraint bresennol, gan gynnwys gwasanaethau ychwanegol, yn dal yn un o brif feysydd cyllido a gweithgarwch Llywodraeth Cymru. Rhai o'r cynlluniau diweddar oedd cyllido gwasanaethau ychwanegol ar reilffordd y Cambrian a rheilffordd Calon Cymru ar sail arbrawf tair blynedd ers mis Mai 2015 a chymorth i ostwng y cap ar y cynnydd a ganiateir ar brisiau docynnau trên a reoleiddir.

 

Mae'r gyllideb yn cefnogi parhau â'r gwaith ar Fetro De Cymru er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol yn y de.  Rhai o'r meysydd sy'n flaenoriaeth i'r rhaglen yw caffael gweithredwr a phartner datblygu, darparu gwasanaethau ‘cyrraedd a mynd’ ar lwybr Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, y Rhymni, Coryton a'r Bae, ynghyd â stoc gerbydau newydd, a gwelliannau i'r rheilffordd ar lwybr Maesteg, Bro Morgannwg a Glyn Ebwy.

 

Bydd buddsoddi ym Metro Gogledd Cymru'n creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig o ansawdd sy'n ddibynadwy ac yn effeithlon i gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau, gan sicrhau bod modd manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd economaidd cysylltedd drwy Gymru a thros ein ffiniau. Bydd y prosiect yn moderneiddio trafnidiaeth ledled y gogledd gan ganolbwyntio ar ddatblygu metro yn ardaloedd mwy trefol y gogledd-ddwyrain.

 

a)    Cymorth i Wasanaethau Bysiau a Thrafnidiaeth Gymunedol

 

Mae bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn dal yn ystyriaeth o bwys i'r gyllideb gan fod y sectorau hyn yn sicrhau cysylltedd i'r cyhoedd sy'n dibynnu'n fawr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cafwyd cyhoeddiad am gamau gweithredu pum pwynt i'r diwydiant bysiau ar 15 Medi 2016 i gefnogi'r sector hwn ac mae ar gael yma:

 

http://gov.wales/newsroom/transport/2016/160915-economy-secretary-outlines-plan-to-support-bus-industry/?lang=cy

 

Er gwaetha'r setliadau heriol iawn yn y gyllideb, er 2013-14 llwyddwyd i gynnal y £25m a ddyrennir bob blwyddyn i awdurdodau lleol drwy gyfrwng ein Grant Cymorth i Wasanaethau Bysiau. Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2017-18 yn cynnwys dyraniad o £25m.

 

Cyflwynwyd hefyd well gwasanaeth ar deithiau hir TrawsCymru er enghraifft yn y gogledd ar lwybr y T3 o'r Bermo i Wrecsam, y T2 o Fangor i Aberystwyth a'r T5 o Aberystwyth o Aberteifi i Hwlffordd.  Mae'r llwybrau hyn hefyd wedi elwa o docynnau mwy fforddiadwy gyda'r nod o annog pobl ifanc i ddefnyddio'r gwasanaethau megis Tocyn Bwmerrang sy'n cynnig teithio rhatach ar benwythnos.

 

Llwyddwyd i sicrhau cytundeb i gyllido dwy swydd amser llawn yn awdurdodau lleol y METRO yn y gogledd a'r de i arwain, cydlynu a chyflawni elfennau'r bysiau o fewn y pum mlynedd nesaf, o fewn amlen QPS bysiau statudol.  At hynny, byddai'n cael ei ddefnyddio'n sail i fuddsoddi yn y dyfodol yn y rhwydwaith bysiau y tu allan i ardaloedd y METRO.

 

Rydym yn parhau i gefnogi'n ariannol waith Defnyddwyr Bysiau Cymru a'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru. Mae'n hanfodol bod safbwyntiau teithwyr yn cael eu cynrychioli'n effeithiol wrth ddatblygu ein polisïau ar gyfer rhwydwaith y bysiau, a bydd trafnidiaeth gymunedol yn parhau i wneud cyfraniad o bwys at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, yn enwedig i gymunedau cymharol ddiarffordd a gwledig.

 

Yn ystod 2016-17, dechreuwyd darparu cymorth ariannol ar gyfer Comisiynydd Traffig amser llawn i Gymru, a fydd yn neilltuo rhagor o amser i gynghori ac addysgu'r diwydiant bysiau, bysiau moethus, tacsis a chludo nwyddau er eu budd hwy, er budd teithwyr ac er budd yr economi a'r amgylchedd ehangach.

 

b)  Cynllun Teithio'n Rhatach ar Fysiau a fyngherdynteithio

 

O dan y gyfraith, awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ad-dalu gweithredwyr bysiau am gludo pobl hŷn neu anabl sydd â thocyn teithio am ddim ar fysiau o dan y cynllun. Mae'n ddyletswydd ar awdurdodau hefyd i sicrhau nad yw'r gweithredwyr bysiau hynny'n 'ddim gwaeth nac yn ddim gwell' eu byd yn sgil hyn. Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru i gefnogi gwariant awdurdodau lleol ar ad-daliadau'n parhau i gyflawni eu cyfrifoldebau, gan ategu'r cyfraniadau y bydd awdurdodau lleol yn dal i'w gwneud o'u cyllidebau eu hunain, a chan adlewyrchu'r cyllido hanesyddol a ddarparwyd ganddynt cyn cyflwyno'r cynllun yn 2002. Gyda'i gilydd, bydd y cyfraniadau hyn gan awdurdodau lleol yn rhyw £10.3m bob blwyddyn.

 

At hynny, byddwn yn talu costau gweinyddu Awdurdodau Lleol drwy dalu £3 am bob cerdyn byw sydd mewn cylchrediad, bob blwyddyn.

 

Cyflwynwyd cynllun peilot Teithio Rhatach ar Fysiau i Bobl Ifanc am 18 mis ym mis Medi 2015. Mae'r cynllun presennol yn dal i gael ei werthuso i weld beth yw ei effaith er mwyn penderfynu ynghylch y ddarpariaeth yn y dyfodol.  Byddwn hefyd yn gweithio gyda'r diwydiant bysiau i benderfynu a oes potensial i barhau â'r cynllun hwn ar sail fasnachol, o bosibl gyda chyfraniad is o lawer gan Lywodraeth Cymru, ar ôl dyfarnu'r cyllid ysgogi cychwynnol ar gyfer y cynllun. 

 

c)  Cymorth ar gyfer Blaenoriaethau Trafnidiaeth Lleol

 

Mae naw Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar waith yng Nghymru. Cymeradwywyd y rhain gan y Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar 20 Mai 2015. Datblygwyd y cynlluniau gan awdurdodau lleol gan ddefnyddio'r Canllawiau ar gyfer Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol.  Mae'r canllawiau hefyd yn dweud ar ba sail y dylid monitro a gwerthuso'r cynlluniau. 

 

Mae llinell y gyllideb ar gyfer blaenoriaethau trafnidiaeth lleol yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol sy'n cefnogi'r economi, yn gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn galluogi teithio llesol. Rydym yn dal i gydweithio ag awdurdodau lleol a chyrff allweddol eraill i sicrhau bod y prif flaenoriaethau'n cael eu gwireddu.

 

7.6      Gwariant Ataliol

 

O ran sicrhau gwell canlyniadau mae camau gwariant ataliol yn bwysig ar gyfer y tymor hir.  Mae'r rhan fwyaf o'r gwariant ar Drafnidiaeth ar gyfer rhaglenni a pholisïau'n rhai y gellir eu priodoli i wariant ataliol megis: teithio llesol o ran hyrwyddo moddau teithio cynaliadwy sydd felly'n lliniaru'r effeithiau ar yr amgylchedd ac yn cynyddu lefelau gweithgarwch sy'n cefnogi canlyniadau iechyd, teithio'n rhatach ar fysiau, gwaith cynnal a chadw parhaus ar y ffyrdd a rheoli'r rhwydwaith i wella diogelwch ar y ffyrdd ac osgoi problemau a damweiniau mwy difrifol dros y tymor hwy. 

 

8.0      MONITRO CYLLIDEBAU

 

Mae adolygiad dwfn a manwl o'r gyllideb ddrafft wedi'i gwblhau.  Wrth iddynt gyflawni eu gwaith, bydd pob maes busnes yn cael ei herio’n fisol a bydd adolygiadau chwarterol manwl yn cael eu cwblhau gan swyddogion i ystyried y rhagolygon diweddaraf ac i gytuno ar symudiadau sydd eu hangen yn y gyllideb.

 

9.0      GWERTHUSIADAU/ADOLYGIADAU

 

Bydd y canlyniadau'n cael eu monitro ar gyfer pob prosiect a chontract sy'n cael ei reoli yn y portffolio. Cynhelir astudiaethau dichonoldeb cyn dechrau ar brosiectau allweddol i asesu pa mor addas yw bwrw ymlaen â hwy o ran gwireddu ein nodau llesiant.

 

Bydd prosiectau a rhaglenni'n cael eu gwerthuso yn ystod y prosiectau a phan fydd y prosiectau'n dod i ben, ac fe ellir gwneud hyn yn fewnol neu gan gontractwyr allanol.

 

Cynhelir adolygiadau Gateway ar brosiectau mawr i asesu gwerth am arian. Mae archwiliadau mewnol ac allanol wedi cael eu cynnal a byddant yn cael eu cynnal yn y dyfodol hefyd. Bydd y rhain yn cynnig rhagor o dystiolaeth i gefnogi canlyniadau polisi.  

 

Mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru (PPIW) yn cael ei gydgyllido gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru a'i nod yw cynnig dadansoddiadau a chyngor annibynnol awdurdodol i Lywodraeth Cymru.

 

Mae'r Sefydliad wedi cyhoeddi sawl adroddiad am bortffolio'r economi a'r seilwaith gan gynnwys adroddiad diweddar am y dystiolaeth sydd ar gael a'r dystiolaeth sydd ei hangen ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio o ran gwella perfformiad economi Cymru.

 

http://ppiw.org.uk/files/2016/10/PPIW-Summary-of-Expert-Workshop-Improving-the-Economic-Performance-of-Wales.pdf

 

Comisiynu gwerthusiadau ac ymchwil yw un ffordd o gasglu tystiolaeth am bolisïau a rhaglenni, ond nid dyma'r unig ffordd ac nid dyma'r ffordd fwyaf priodol bob tro.

 

Mae'r portffolio'n defnyddio amrywiaeth o ddulliau o gasglu tystiolaeth ac o werthuso polisïau a rhaglenni. Mae rhai o'r rhain yn llywio'r broses drwy gynnig cyngor a dysgu gwersi gan arbenigwyr.

 

Weithiau, defnyddir y sail dystiolaeth sydd ar gael eisoes i lunio rhaglenni a pholisïau ac nid oes bob tro angen cynhyrchu tystiolaeth newydd. Nid yw gwneud hynny bob tro’n cynnig gwerth am arian ychwaith.  Er enghraifft, mae Canolfan ‘Yr Hyn sy'n Gweithio ar gyfer Twf Lleol’ wedi cyhoeddi adroddiadau sy'n dadansoddi pa bolisïau sydd fwyaf effeithiol o ran cefnogi a chryfhau twf economaidd lleol.

 

http://www.whatworksgrowth.org/

 

Yn yr un modd mae'r OECD wedi cynnal arolwg o ymagweddau polisi datblygu economaidd a chyflogaeth lleol yng ngwledydd yr OECD ac wedi ystyried sut y gellid rhoi'r rhain ar waith yng Nghymru.

 

http://www.oecd-ilibrary.org/industry-and-services/a-review-of-local-economic-and-employment-development-policy-approaches-in-oecd-countries-policy-transferability-to-wales_5km7rq3vv2hg-en

 

Gellir ystyried a oes angen gwerthuso a beth fyddai cwmpas gwaith o’r fath fesul achos wrth ddatblygu polisïau a rhaglenni gan roi sylw i'r risg, ac i faint a graddfa’r gwaith, i'r sail dystiolaeth sydd ar gael eisoes ac i ffactorau eraill.

 

10.0   DYRANIADAU AC YSTYRIED BOD Y DEYRNAS UNEDIG WEDI PLEIDLEISIO I YMADAEL Â'R UNDEB EWROPEAIDD

 

O ran y goblygiadau ariannol i'r portffolio yn sgil y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae gwaith mawr ar y gweill drwy Lywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn dylanwadu gymaint ag y bo modd yn ein trafodaethau o fewn y Deyrnas Unedig ac yna mewn negodiadau ffurfiol â'r Undeb Ewropeaidd a thrwy hynny ein bod yn sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru. Mae gwarant gan Drysorlys y Du ar gyfer cyllid ar gyfer Cronfeydd Strwythurol a rhaglenni eraill yr UE yn mynd gam o’r ffordd tuag at gyllido’r galwadau ond byddwn yn parhau i bwyso i sichrau nad yw Cymru yn colli ceiniog o gyllid presennol yr UE a chyllid a ragwelwyd ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn bendant ein barn bod yn rhaid i bwerau a chyfrifoldeb a drosglwyddir o’r UE i Gymru ddod law yn llaw â lefel briodol o gyllid i’n galluogi i gyflawni.

 

Mae'r Cynllun i Godi Hyder Byd Busnes yn dweud sut yr ydym yn canolbwyntio'n hymdrechion ar warchod swyddi a'r economi yn y tymor hwy, drwy ddyrannu cyllid ar gyfer gweithgareddau penodol megis y Gronfa Twf a Ffyniant, y Banc Datblygu a Chronfa Fusnes newydd Cymru yng Nghyllid Cymru, gan gyfleu'r neges ein bod o blaid busnes, a thrwy ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau ynglŷn â'u blaenoriaethau.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl newyddion ddiweddar: http://gov.wales/newsroom/businessandeconomy/2016/160921-136m-fund-and-development-bank-will-help-support-businesses-in-wales-post-eu-referendum-says-economy-secretary/?lang=cy

 

Mae ymgyrchoedd rhagweithiol hefyd yn helpu busnesau a thwristiaeth drwy hybu brand Cymru ac rydym yn dyblu ein hymdrechion i gynyddu nifer a maint yr allforwyr o Gymru sy'n allforio drwy gyflwyno cynllun rhagweithiol i gynnig cymorth ar gyfer allforio. Mae £0.5m ychwanegol wedi'i fuddsoddi ym maes marchnata busnesau i hyrwyddo Cymru a chefnogi gweithgarwch mewnfuddsoddi.

 

11.0   DEDDFWRIAETH

 

11.1Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

 

Ystyrir hyn yn adran 7.5.

 

11.2Bil Cymru - Drafft

 

Bydd Bil Cymru'n ehangu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol mewn sawl maes trafnidiaeth. Bydd hefyd yn ehangu swyddogaethau gweithredol Gweinidogion Cymru ym maes trafnidiaeth, yn enwedig o ran porthladdoedd a thraffig y ffyrdd.

Ni ragwelir y daw Bil Cymru i rym tan fis Ebrill 2018 ac ni fydd dim goblygiadau ariannol ar gyfer cyllideb 2017-18, ac eithrio adnoddau'r staff y bydd eu hangen i baratoi ar gyfer cyflawni'r swyddogaethau newydd.

 

Nid yw Llywodraeth Cymru'n ceisio cymhwysedd deddfwriaethol dros ddarlledu ar radio a theledu ar hyn o bryd.  Serch hynny, mae gan Lywodraeth Cymru rolau a buddiannau gyda golwg ar y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus ac Ofcom, gan gynnwys rôl ffurfiol, ymgynghorol yn yr adolygiad sydd ar y gweill ar hyn o bryd o Siarter Frenhinol y BBC.

 

11.3Deddf Menter 2016 - deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig

 

Nid ydym yn rhagweld y caiff y ddarpariaeth yn Neddf Menter 2016, sy'n rhoi Gwasanaeth y Comisiynydd Busnesau Bach ar waith, effaith ar ein cyllideb.  Cynllun gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwyddi draw yw hwn, a bydd y gwasanaeth yn cael ei roi ar waith ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yng Nghymru.  Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi gwybodaeth am gyllid i sefydlu a chynnal y gwasanaeth hwn a deallwn mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd hyn ac felly nad oes angen darparu ar ei gyfer yng nghyllideb ddrafft Cymru.

 

 

11.4Bil Marchnadoedd Gwell - Deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig

 

Rydym yn disgwyl i'r Bil hwn gael ei gyflwyno gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac nid ydym yn rhagweld y bydd angen i gyllideb Cymru ddarparu ar gyfer hyn.

 

11.5Bil Gwasanaethau Bysiau - Deddfwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig

 

Bydd Bil Gwasanaethau Bysiau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn berthnasol yn Lloegr yn unig yn bennaf a bydd y ddeddfwriaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd gyda golwg ar wasanaethau bysiau yng Nghymru'n parhau fel y mae yn awr.  Ar ôl i'r Arglwyddi a Grŵp Cynghori Teithwyr Anabl gyflwyno sylwadau, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno gwelliant i'r Bil Gwasanaethau Bysiau (5 Hydref 2016).  Effaith y gwelliant fydd diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gyflwyno gofyniad i weithredwyr bysiau ddarparu gwybodaeth hygyrch i deithwyr anabl yn ystod eu taith, gan gynnwys systemau cyhoeddi clyweledol i roi gwybodaeth iddynt am y stop nesaf. Mae'r ddarpariaeth yn diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010, ac mae'n dweud y bydd yn rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wneud y Rheoliadau a chyhoeddi'r canllawiau sy'n gefn iddynt drwy ymgynghori â'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban. Bydd y darpariaethau perthnasol yn y Bil Gwasanaethau Bysiau sy'n cael eu pasio drwy Ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig a fydd yn berthnasol yng Nghymru'n niwtral o ran cost i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, er y gallai'r Rheoliadau sy'n dilyn ychwanegu rhyw 0.4% at gost gweithredu gwasanaethau bysiau yng Nghymru (os bydd cyhoeddiadau clyweledol yn cael eu cynnwys yn y Rheoliadau).


ATODIAD A

 

Cysoni Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 â Chyllideb Ddrafft 2017-18

2017-18

Yr Economi

£’000

Trafnidiaeth

£’000

Cyfanswm Adnoddau

£’000

Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17

49,556

304,939

354,495

Newidiadau i'r Portffolio

Sectorau

Trosglwyddo Polisi Ynni i'r Amgylchedd a Materion Gwledig.

(294)

 

(294)

Teithio Cynaliadwy

Trosglwyddo i Lywodraeth Leol ar gyfer Cynllun y Bathodyn Glas

 

(21)

(21)

Dyraniadau nad ydynt yn Ailadroddus

Sectorau

Ardal Fenter Port Talbot - Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes

(1,500)

 

(1,500)

Tocynnau Rhatach i Bobl Ifanc

Daw'r cynllun peilot i ben ym mis Mawrth 2017

 

(9,750)

(9,750)

Cyfanswm Addasiadau Sylfaenol

(1,794)

(9,771)

(11,565)

 

 

 

 

 

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig 2017-18

47,762

295,168

342,930

Arbedion Refeniw ar gyfer 2017-18

Sectorau

Arbedion a ragwelir ar ôl adolygu rhaglenni.

(100)

 

(100)

Rhaglenni Corfforaethol

Gostwng y gofynion llog ar gyfer ad-dalu Dyledion y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol ac Adolygiadau Corfforaethol.

(134)

 

(134)

Cyllid Cymru

Gostyngiad mewn cyllid craidd yn sgil arbedion effeithlonrwydd.

(420)

 

(420)

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

Arbedion a ragwelir yn sgil elfennau perfformiad contract masnachfraint y rheilffyrdd a lefelau is o chwyddiant RPI.

 

(1,096)

(1,096)

Cyfanswm Arbedion Refeniw

(654)

(1,096)

(1,750)

Dyraniadau Ychwanegol ar gyfer 2017-18

Sectorau

Croeso Cymru

5,000

 

5,000

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

 

300

300

Teithio Cynaliadwy

Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer lôn feicio genedlaethol

 

200

200

Astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer seilwaith y porthladdoedd

 

2,000

2,000

Llwybrau diogel i gymunedau

 

500

500

Cyfanswm Dyraniadau Ychwanegol

5,000

3,000

8,000

Ailgysoni'r Gyllideb ar gyfer 2017-18

Sectorau

Trosglwyddo'r ddarpariaeth hedfanaeth ar gyfer gweithgarwch Sain Tathan.

(2,948)

 

(2,948)

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

 

2,948

2,948

SIF - Gwaddol

Cyfuno'r Cam Gweithredu o fewn y Sectorau

(1,560)

 

(1,560)

Sectorau

1,560

 

1,560

Rhaglenni Corfforaethol

Llinellau'r Camau Gweithredu - wedi'u cyfuno â Rhaglenni Strategaeth

551

 

551

Rhaglenni Strategaeth

(551)

 

(551)

Cyfanswm

(2,948)

2,948

0

Cyfanswm y Symudiad ar gyfer 2017-18

1,398

4,852

6,250

Cynlluniau Newydd Cyllideb Ddrafft 2017-18

49,160

300,020

341,180


Atodiad B

 

YR ECONOMI, GWYDDONIAETH A THRAFNIDIAETH

Dyraniadau'r Gyllideb 2017-18

 

 REFENIW

2017-18

2017-18

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

Cyllideb Ddrafft £'000

Sectorau a Busnes

Sectorau

4029

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl

1,560

1,560

 

3765

TGCh

6,446

5,946

 

 

3763

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

145

145

 

 

3762

Diwydiannau Creadigol

851

851

 

 

3761

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

4,018

1,070

 

 

3760

Ynni a'r Amgylchedd

1,106

1,106

 

 

6250

Twristiaeth a Marchnata

10,262

15,762

 

 

3752

Adeiladu

514

514

 

 

3753

Datblygu Piblinellau

1,326

1,226

 

 

3754

Masnach a Mewnfuddsoddi

1,892

1,892

 

 

3755

Ardaloedd Menter

927

927

 

 

3756

Ardaloedd Menter - Ardrethi Busnes

0

0

 

 

4051

Datblygu a Chyflawni Rhanbarthol

263

263

 

 

29,310

31,262

 

Entrepreneuriaeth

3893

Entrepreneuriaeth Pobl Ifanc

1,319

1,319

 

 

3894

Menter Gymdeithasol a'r Economi

814

814

 

 

3895

Gwasanaeth Busnesau Newydd

1,480

1,480

 

 

3901

Gwybodaeth Busnes

618

618

 

 

4,231

4,231

 

 

 

33,541

35,493

 

 


 

 

 

CYFALAF

2016-17

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

Cyfanswm

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

£’000

£’000

£’000

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Sectorau a Busnes1

Sectorau

4029

Y Gronfa Fuddsoddi Sengl

4,450

0

0

0

0

0

3765

TGCh

1,865

165

1,000

2,000

1,000

4,165

 

 

3763

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

9,339

7,752

3,012

2,174

1,000

13,938

 

 

3762

Diwydiannau Creadigol

7,098

2,949

1,070

5,000

2,500

11,519

 

 

3761

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

8,495

10,409

4,496

10,683

3,000

28,588

 

 

3760

Ynni a'r Amgylchedd

3,571

11,000

6,295

5,345

1,500

24,140

 

 

3752

Adeiladu

1,897

195

151

278

150

774

 

 

3753

Datblygu Piblinellau

19,835

23,387

24,290

14,593

14,911

77,181

 

 

3755

Ardaloedd Menter

3,122

0

0

0

0

0

 

 

6250

Twristiaeth a Marchnata

2,000

4,000

4,000

4,000

1,000

13,000

 

 

Cyfanswm Cyfalaf Traddodiadol

61,672

59,857

44,314

44,073

25,061

173,305

FTR

 

 

3753

Datblygu Piblinellau

 

8,000

1,500

7,400

0

16,900

 

 

3761

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

7,000

0

0

0

0

0

 

 

3758

Cronfeydd Ariannu Busnesau (Cyllid Cymru)

18,000

17,750

7,000

18,000

3,000

45,750

 

 

 

Cyfanswm FTR

25,000

25,750

8,500

25,400

3,000

62,650

Cyfanswm Dyraniadau Cyfalaf

86,672

85,607

52,814

69,473

28,061

235,955

 

1 Nid yw'n cynnwys Gwyddorau Bywyd, Gwyddoniaeth ac Arloesi - portffolio'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth


 

REFENIW

2017-18

2017-18

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

£’000

Cyllideb Ddrafft £'000

 

 

 

 

Seilwaith1

Seilwaith Eiddo

4052

Tir ac Adeiladau - Gwariant

24,090

24,090

 

 

4052

Tir ac Adeiladau - Derbyniadau

(20,064)

(20,064)

 

 

 

 

Cyfanswm y Grŵp

 

 

 

4,026

4,026

 

 

CYFALAF

2016-17

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

Cyfanswm

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

£’000

£’000

£’000

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Seilwaith1

Seilwaith Eiddo

4052

Tir ac Adeiladau - Gwariant

8,597

16,041

10,905

10,077

10,886

47,909

 

 

4052

Tir ac Adeiladau - Derbyniadau

(24,412)

(10,000)

(7,500)

(7,500)

(7,500)

(32,500)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm Cyfalaf Traddodiadol

(15,815)

6,041

3,405

2,577

3,386

15,409

FTR

Seilwaith1

Seilwaith Eiddo

4052

Tir ac Adeiladau - Gwariant

 

17,855

7,220

6,100

5,000

36,175

 

 

Cyfanswm FTR

 

 

 

 

 

 

0

17,855

7,220

6,100

5,000

36,175

Cyfanswm Dyraniadau Cyfalaf

(15,815)

23,896

10,625

8,677

8,386

51,584

 

1 Nid yw'n cynnwys Seilwaith TGCh - portffolio'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

REFENIW

2017-18

2017-18

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

£’000

Cyllideb Ddrafft £'000

 

 

 

 

Digwyddiadau Mawr

Digwyddiadau Mawr

4231

Marchnata a Digwyddiadau Mawr

3,918

3,918

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm SPA

 

 

3,918

3,918

 


 

 

 

 REFENIW

2017-18

2017-18

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

£’000

Cyllideb Ddrafft £'000

 

 

 

 

Rhaglenni Corfforaethol

Rhaglenni Corfforaethol

3899

Her Iechyd Cymru

800

800

 

 

4028

Y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol

1,655

1,641

 

 

4023

Rhaglenni a Gwasanaethau Corfforaethol

1,111

992

 

 

3891

Dadansoddi Economaidd

158

157

 

 

3897

Ymgysylltu Strategol

293

293

 

 

4230

Marchnata Cyfathrebu

100

100

 

4,117

3,983

Cyllid Cymru

Cyllid Cymru

4024

Cyllid Cymru

2,160

1,740

 

Cyfanswm SPA

 

 

6,277

5,723

 

CYFALAF

2016-17

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

Cyfanswm

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

£’000

£’000

£’000

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Rhaglenni Corfforaethol

Rhaglenni Corfforaethol

4028

Y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol

90

104

120

138

159

521

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm Dyraniadau Cyfalaf

90

104

120

138

159

521

 

 


 

REFENIW

2017-18

2017-18

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Llinell Sylfaen Ddiwygiedig

Cyllideb

£’000

Cyllideb Ddrafft £'000

Gweithrediadau Rhwydwaith y Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

Gweithrediadau'r Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

1885

Gweithrediadau'r Rhwydwaith

47,264

47,264

1884

Rheoli a Chefnogi Asedau'r Rhwydwaith

4,525

4,525

 

 

51,789

51,789

Gwella a Chynnal Rhwydwaith y Cefnffyrdd (Llwybrau Domestig) - nid yn Arian Parod

1886

Rheoli a Chefnogi Asedau'r Rhwydwaith

108,691

188,691

 

 

 

108,691

188,691

 

 

 

 

 

 

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

 Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

1890

Masnachfraint y Rheilffyrdd

184,079

183,283

 

1883

Hedfanaeth

1,600

4,548

 

 

 

 

185,679

187,831

 

 

 

 

 

Teithio Cynaliadwy

 Teithio Cynaliadwy

2030

Teithio Cynaliadwy a Cherdded a Beicio

150

850

 

1880

Cymorth i Fysiau a Thrafnidiaeth Leol

28,427

28,427

 

 

2005

Datblygiadau Seilwaith

0

2,000

 

 

2000

Teithio'n Rhatach ar Fysiau

22,359

22,359

 

 

1881

Cardiau Clyfar

2,000

2,000

 

 

 

52,936

55,636

 

 

 

 

 

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd 

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

1892

Diogelwch ar y Ffyrdd

4,764

4,764

 

 

 

4,764

4,764

Cyfanswm y Grŵp

 

 

 

403,859

488,711

 


 

 CYFALAF

2016-17

2017-18

2018-19

2019-20

2020-21

Cyfanswm

SPA

CAM GWEITHREDU

BEL

Enw'r BEL

Cyllideb Atodol Gyntaf £'000

Cyllideb Ddrafft £'000

£’000

£’000

£’000

£’000

Cyfalaf Traddodiadol

Gweithrediadau Rhwydwaith y Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

Gweithrediadau'r Traffyrdd a'r Cefnffyrdd

1885

Gweithrediadau'r Rhwydwaith

80,600

79,493

69,166

69,500

79,613

297,772

 

 

80,600

79,493

69,166

69,500

79,613

297,772

Buddsoddi yn y Ffyrdd, y Rheilffyrdd a Hedfanaeth

Cynlluniau Ffyrdd, Rheilffyrdd a Hedfanaeth

1889

Adeiladu Ffyrdd Newydd ac Astudiaethau Gwella

1,900

0

0

0

0

0

1888

Adeiladu Ffyrdd Newydd a Gwelliannau

116,719

155,562

50,354

44,294

106,615

356,825

1891

Buddsoddi yn y Rheilffyrdd

5,100

20,463

55,080

88,500

117,500

281,543

1883

Hedfanaeth

0

4,721

4,577

4,873

0

14,171

 

 

123,719

180,746

110,011

137,667

224,115

652,539

Teithio Cynaliadwy

Teithio Cynaliadwy

2030

Teithio Cynaliadwy a Cherdded a Beicio

6,650

6,650

6,650

6,650

6,650

26,600

2000

Teithio'n Rhatach ar Fysiau

39,297

39,297

27,000

27,000

27,000

120,297

1881

 Cardiau Clyfar

600

1,000

1,000

1,000

1,000

4,000

1882

Blaenoriaethau Trafnidiaeth Lleol

20,900

22,400

6,150

6,150

1,150

35,850

 

  

67,447

69,347

40,800

40,800

35,800

186,747

Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd 

 Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd

1892

Diogelwch ar y Ffyrdd

6,900

6,900

6,900

6,900

6,900

27,600

 

 

6,900

6,900

6,900

6,900

6,900

27,600

 

 

Cyfanswm Cyfalaf Traddodiadol

278,666

336,486

226,877

254,867

346,428

1,164,658

FTR

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr

1883

Hedfanaeth

0

5,000

2,200

1,200

0

8,400

 

 

Cyfanswm FTR

0

5,000

2,200

1,200

0

8,400

Cyfanswm Dyraniadau Cyfalaf

278,666

341,486

229,077

256,067

346,428

1,173,058


Atodiad C

Asesiad Effaith Integredig Strategol

 

Golwg gyffredinol

 

Mae cynllun gwariant y portffolio'n canolbwyntio ar ein blaenoriaethau sef adeiladu economi gryfach a thecach sy'n sicrhau twf economaidd cynaliadwy a swyddi a chyfleoedd i bobl ym mhob rhan o Gymru. Ein bwriad yw edrych o'r newydd ar sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd ati i ddatblygu'r economi a darparu cymorth i fusnesau. Rydym eisoes yn ceisio barn gychwynnol pobl am y blaenoriaethau economaidd sydd eu hangen i sicrhau Cymru decach, fwy llewyrchus a mwy diogel.  Bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu bwydo i'r gwaith strategol y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef dros y misoedd nesaf.

 

A chyflogaeth a mewnfuddsoddi wedi torri pob record a'r gyfradd ddiweithdra'n is nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig drwyddi draw, mae'r sylfeini wedi'u gosod ar gyfer cyflawni yn wyneb yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaen. Rydym yn bwrw ymlaen ag ystod o weithgareddau sydd wedi'u targedu'n dda i sicrhau bod swyddi a chyfleoedd ar gael mewn ffordd gynhwysol ac i sicrhau bod unigolion yn gallu elwa o dwf economaidd gan gynnwys camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi a hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ("y Ddeddf")  wedi darparu'r fframwaith ar gyfer datblygu'r cynllun ac rydym wedi mabwysiadu safbwynt tymor hir a dull cyfannol wrth wneud ein penderfyniadau.

 

Mae datblygu cynaliadwy wrth galon y Ddeddf a dyma egwyddor drefnu ganolog ein cynllun, gan sicrhau bod ein penderfyniadau rhoi sylw i'r amcanion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol a'u heffeithiau. Wrth wneud hyn, rydym yn mabwysiadu dull o sicrhau bod cymryd rhan, cydweithio, integreiddio, buddsoddi tymor hir a chamau ataliol yn bwrw gwreiddiau yn ein polisïau a'n cyflawni. 

 

Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i archwilio sut y gallwn droi at economi garbon-isel sy'n ddarbodus o ran ynni ac yn arloesol er mwyn gwireddu twf a ffyniant economaidd tymor hir. Nid yw'r dull hwn yn disodli datblygu cynaliadwy; yn hytrach, mae'n ei roi ar waith, gan helpu i sicrhau bod amcanion economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol yn bwrw gwreiddiau yn ein ffordd o weithio.

 

Rydym yn cyflawni ein hymyraethau ym maes trafnidiaeth ym mhob cwr o Gymru fel y maent yn y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol er mwyn darparu rhwydwaith sy'n un tymor hir, yn gynaliadwy ac yn integredig, ac er mwyn sicrhau ei fod yn gallu ymdopi â gofynion y dyfodol o ran anghenion pobl Cymru. Er nad yw'r holl bwerau ym maes trafnidiaeth wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru, rydym yn defnyddio'r ystod o bwerau sydd gennym eisoes i gynllunio, datblygu a darparu trafnidiaeth ledled Cymru ar y cyd â phartneriaid, gan gefnogi datblygu economaidd-gymdeithasol a sicrhau cyfleoedd i bawb. Mae gwelliannau i gapasiti ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn fanyleb allweddol ar gyfer y newidiadau yr ydym yn dymuno'u gweld wrth fwrw ymlaen â rhaglen y Metro.  Mae ein cynlluniau teithio'n rhatach a gostyngiadau ar brisiau tocynnau trafnidiaeth gyhoeddus yn targedu demograffeg oedran benodol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd i fyw bywydau cynaliadwy sy'n eu bodloni.  Bydd hwyluso mynediad mwy clyfar drwy gyfrwng trefniadau tocynnu, gwybodaeth a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus megis cyhoeddiadau clyweledol ar fysiau'n help i liniaru effeithiau heneiddio.

 

Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu system drafnidiaeth integredig, amlfodd a chynaliadwy sy'n darparu ar gyfer anghenion datblygu busnesau, yn galluogi ein cymunedau i ffynnu, ac yn rhoi cyfle i'n holl bobl fanteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy sy'n eu bodloni.

 

Mae ein rhaglenni cyfalaf a seilwaith yn sail i gydnerthedd amgylchedd adeiledig a naturiol Cymru i ddiwallu ei hanghenion ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rydym wedi darparu Cyllideb cyfalaf pedair blynedd i gynnig eglurder ar gyfer ein cynlluniau yn y tymor hwy. Drwy arddel ymagwedd llywodraeth gyfan a'i defnyddio ynghyd â'n sbardunau cynllunio defnydd tir, gall trafnidiaeth sicrhau newid trawsffurfiol drwy Gymru, gan wireddu ein hagenda ehangach ym maes iechyd, addysg, trechu tlodi a gwella cydlyniant cymdeithasol.

 

Mae twf gwyrdd yn sicrhau bod ein cyfoeth naturiol sylweddol yn cael gofal er mwyn iddo barhau i'n cynnal mewn ffordd gymdeithasol deg, er lles pobl Cymru. Mae hynny'n golygu sicrhau rhagor o arbedion a chynaliadwyedd ym mhob rhan o'n heconomi drwyddi draw ac mewn busnesau a sefydliadau ar draws pob sector.  Mae Twf Gwyrdd Cymru yn trosi ein nodau polisi'n gamau gweithredu ar lawr gwlad drwy ddeddfwriaeth, polisïau a rhaglenni cyflawni i greu'r amgylchiadau gorau posibl er mwyn i fusnesau, sefydliadau ac unigolion sicrhau twf cynaliadwy. http://gov.wales/docs/det/publications/160412-business-of-becoming-a-sustainable-nation-cy.pdf

Mae'r portffolio'n cydnabod arwyddocâd pwysig y Gymraeg i economi Cymru a swyddogaeth allweddol Safonau'r Gymraeg ac asesu'r effaith ar y Gymraeg wrth inni lunio'n hymagwedd at hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg.  Mae'r cynllun yn creu'r cysylltiadau mewn meysydd gwasanaeth, yn enwedig trafnidiaeth, i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.

 

Mae ein cynlluniau hefyd yn rhoi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r gofyniad yng Nghymru i asesu effaith y camau a gymer Gweinidogion gyda golwg ar hawliau plant a phobl ifanc. Ystyriwyd hawliau plant wrth lunio Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015.

 

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i roi saith nod llesiant y Ddeddf ar waith. Mae ein cynigion yn y gyllideb wedi parhau i edrych ar sut y byddwn yn sicrhau bod y pum ffordd o weithio'n bwrw gwreiddiau i'n helpu i sicrhau'r dylanwad mwyaf, i lywio cynlluniau sy'n helpu i Symud Cymru Ymlaen ac i arddel ymagwedd integredig at ystyried yr effeithiau ar grwpiau sy'n cael eu gwarchod a'n helpu i ganolbwyntio ar y nodau cenedlaethol sy’n gyffredin inni i gyd.

 

Y Tymor Hir

o  Rydym eisoes yn cymryd camau sy'n gyson â'n dyletswydd o dan yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd ein buddsoddi mewn prosiectau seilwaith yn help i greu'r amgylchiadau iawn i sicrhau llewyrch economaidd i Gymru yn awr ac yn y tymor hir.

o  Mae ymgyrch Syniadau Mawr Cymru yn rhan o wasanaeth Busnes Cymru ac mae'n cefnogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ifanc yn y wlad. Ymagwedd tymor hir ar gynllunio trafnidiaeth yw'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Genedlaethol ac ymgynghorwyd yn helaeth yn ei gylch.

 

 

 

Atal

o  Ni allwn fforddio i wastraffu sgiliau a doniau neb o'n dinasyddion, nac yn awr nac yn y dyfodol. Mae tlodi'n niweidio unigolion a hefyd iechyd economaidd a chymdeithasol ein gwlad.  Mae creu swyddi a thwf yn ganolog i'n hymdrechion i helpu i drechu tlodi yng Nghymru ac rydym yn sylweddoli mai swyddi sy’n talu’n dda  sy'n cynnig y warchodaeth orau rhag tlodi. 

o  Rydym yn cymryd camau i hybu'r cyflog byw yng Nghymru gan ein helpu i gamu ymlaen at Gymru sy'n fwy cyfartal.

o  Mae cymorth i fysiau a threnau'n arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran iechyd a heriau cymdeithasol ac yn help i sefydlu cymdeithas decach a mwy cyfartal.

 

Integreiddio

o  Mae ein cymorth i drafnidiaeth yn helpu pobl yng Nghymru i gael gafael ar gyfleoedd gwaith a hyfforddiant a fydd nid yn unig yn gwella'u ffyniant economaidd yn awr ac yn y dyfodol ond hefyd yn gwella cysylltedd ein cymunedau ac yn help inni gamu ymlaen at greu Cymru fwy cyfartal.

 

Cydweithio

o  Byddwn yn ymgysylltu â llawer o bartneriaid ym myd busnes, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gan weithio tuag at y nodau sy'n gyffredin inni. Er enghraifft, mae'r Dinas Ranbarthau a'r Ardaloedd Menter yn cynnig arweiniad a chyfeiriad strategol ar gyfer datblygu economaidd gofodol.

o  Mae'r Cyngor Adfywio Economaidd yn cynnig fforwm ar gyfer cydweithio â phartneriaid cymdeithasol ac yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o fyd busnes (gan gynnwys mentrau cymdeithasol), Cynghrair Undebau Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

o  Byddwn yn gosod allan ein cynlluniau ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol cyn bo hir ac yn cynnig rhagor o sicrwydd a chynaliadwyedd ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol.

o  Rydym yn cefnogi cynlluniau sydd wedi'u hanelu at annog cadwyni cyflenwi i arloesi a thyfu'n gyfrifol megis y webarth busnesau cyfrifol ar wefan Busnes Cymru. 

 

 

Cymryd Rhan

o  Ym mis Mawrth 2016, cynhaliwyd Uwchgynhadledd Twf Gwyrdd ryngwladol yng Nghaerdydd.  Llwyfan i lunwyr polisïau ac arweinwyr busnes oedd yr uwchgynhadledd hon er mwyn iddynt ddod ynghyd i drafod yn agored sut y gallwn fod yn economi fwy arloesol a chynhyrchiol sy'n defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon ac sy'n rhad ar garbon.

o  Byddwn yn noddi Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru'n benodol i wella'r ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid cymdeithasol gan gynnwys cyrff sy'n cynrychioli busnesau, Cynghrair Undebau Llafur Cymru a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

o  Rydym yn ceisio barn rhanddeiliaid drwy'r wlad wrth benderfynu ynglŷn â blaenoriaethau economaidd Cymru. Rydym yn awyddus i gynnwys pobl eraill a chydweithio â hwy er mwyn inni ganolbwyntio ar y pethau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn a hwnnw’n wahaniaeth sy’n para.

 

Yn sgil paratoi ein cynlluniau ac wedi ystyried y tueddiadau demograffig a'r ystadegau diweddar a ganlyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gwelwyd:

 

 

·           Bod disgwyl i boblogaeth Cymru gynyddu i 3.18 miliwn erbyn 2024 ac i 3.26 miliwn erbyn 2039.

·           Bydd nifer y plant yn cynyddu drwyddi draw i 567,000 yn 2039 (cynnydd o 2.3% rhwng 2014 a 2039).

·           Bydd nifer y bobl 16-64 oed yn gostwng 6% (108,000) rhwng 2014 a 2039.

·           Bydd nifer y bobl 65+ yn cynyddu 30% (271,000) rhwng 2014 a 2039.

 

Mae dolen i'r ddogfen hon ar gael yma http://gov.wales/statistics-and-research/national-population-projections/?lang=cy.

 

Amddifadedd a Thlodi

 

Mae ein rhaglenni a'n prosiectau'n adlewyrchu ymrwymiad tymor hir Llywodraeth Cymru i liniaru effaith amddifadedd a thlodi.  Rydym yn canolbwyntio ar greu a chadw swyddi sy'n golygu bod pobl mewn tlodi neu mewn perygl o ddisgyn i dlodi, ymgysylltu'n gadarnhaol â'r farchnad lafur, gan gydnabod bod swyddi'n warchodaeth gref i bobl rhag tlodi, yn enwedig tlodi parhaus.

 

Rydym yn mynd ati mewn ffordd gytbwys, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau i ysgogi'r galw am bob math o swydd. Ein nod yw cefnogi cyfleoedd i unigolion medrus iawn, yn ogystal â chyfleoedd ar y lefel mynediad a chyfleoedd i gamu ymlaen i'r rheini sydd ymhellach oddi wrth y farchnad lafur.

 

Mae ein rhaglenni a'n prosiectau hefyd yn help i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a wynebir gan bobl wrth iddynt geisio cael gafael ar waith a hyfforddiant i sicrhau bod y rheini sydd mewn tlodi neu mewn perygl o ddisgyn i dlodi'n gallu elwa o'r cyfleoedd a gaiff eu creu yn sgil twf economaidd.  Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddatblygu sgiliau i arfogi pobl i fanteisio ar gyfleoedd i gael gwaith, darparu rhwydwaith trafnidiaeth effeithiol a fforddiadwy sy'n galluogi pobl i gyrraedd gwaith a hyfforddiant, ac ymdrechion i annog arferion cyflogaeth cyfrifol, megis trefniadau gweithio hyblyg, sy'n gadael i bobl weithio o amgylch cyfrifoldebau gofalu, neu weithio rhagor o oriau ac ennill rhagor o gyflog.

 

Mae trafnidiaeth yn chwarae rhan hanfodol yn sbarduno gallu Cymru i gystadlu'n economaidd, gan gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a marchnadoedd. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu system drafnidiaeth integredig, amlfodd, gynaliadwy sy'n darparu ar gyfer anghenion datblygu busnesau, yn galluogi'n cymunedau i ffynnu, ac yn rhoi cyfle i'n holl bobl fanteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy sy'n eu bodloni.

 

Mae'r system integredig honno'n ysgogiad pwysig ar gyfer gwireddu agenda ehangach y Llywodraeth ar gyfer trechu tlodi a mynd i'r afael â chydlyniant cymdeithasol, gan gynnig cyfleoedd a chefnogi trefniadau megis trefniadau gweithio hyblyg, sy'n gadael i bobl weithio o amgylch cyfrifoldebau gofalu, neu weithio rhagor o oriau ac ennill rhagor o gyflog.

 

Asesu'r Effaith ar y Gymraeg

 

Ystyrir gofynion y Gymraeg fel mater o drefn ar gyfer rhaglenni a phrosiectau. Mae'r egwyddorion wedi bwrw gwreiddiau yn y ddarpariaeth i atgyfnerthu pwysigrwydd y Gymraeg wrth greu amgylchedd busnes sefydlog a ffafriol, hybu sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith economaidd, gan gynnwys trafnidiaeth a chyfathrebu.  Dyma ambell enghraifft:

 

o   Y Rhaglen Entrepreneuriaeth i Bobl Ifanc

Drwy Gymru, mae rhwydwaith cryf o 379 o entrepreneuriaid yn gweithio fel Modelau Rôl gydag ymgyrch Syniadau Mawr Cymru i gymell ac ysbrydoli ein pobl ifanc. Mae’r rhwydwaith Modelau Rôl yn cynnwys 20% o siaradwyr Cymraeg i helpu i ddarparu gweithdai mewn ysgolion a cholegau.

 

o   Gwasanaethau Rheilffyrdd

Mae'r ddarpariaeth gyllido wedi'i chynnwys mewn trefniadau contract megis masnachfraint Cymru a'r Gororau a ddyfarnwyd yn 2003. Darperir gwasanaethau megis gwasanaeth i gwsmeriaid dros y ffôn, a byddwn hefyd yn sicrhau bod yr holl arwyddion, amserlenni a gwybodaeth a chyhoeddusrwydd arall i deithwyr yn cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg.   

       

o   Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015

Aseswyd effaith y Cynllun ar y Gymraeg a bydd hyn yn llywio'r blaenoriaethau ar gyfer gwario ar Drafnidiaeth yn y dyfodol.

 

o   Ardal Twf Dyffryn Teifi

Cryfhau'r ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn lleol a mabwysiadu dull mwy rhagweithiol o ddatblygu busnesau a phobl. Hefyd, mae prosiect Peilot ar gyfer y Gymraeg wedi'i roi ar waith, gan ymgysylltu'n wreiddiol â phedwar gweithdy yn Aberteifi, Llandysul, Castellnewydd Emlyn a Llanbedr Pont Steffan i weld sut y gall defnyddio'r Gymraeg fod o fudd i'r economi leol.

 

Effeithiau a Thystiolaeth

 

Trafnidiaeth

 

Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 yn dangos y rhan hanfodol sydd gan drafnidiaeth i'w chwarae'n gwella gallu Cymru i gystadlu a’i gwneud yn haws i bobl gyrraedd swyddi a gwasanaethau.  Wrth fuddsoddi mewn trafnidiaeth, mae'n bwysig canolbwyntio ar sut y gall wasanaethu anghenion busnesau i'w galluogi i ffynnu; a'i gwneud yn bosibl i bobl fanteisio ar y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach, cynaliadwy sy'n eu bodloni.  Aseswyd Effaith y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol ac mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/docs/det/policy/150716-ntfp-impact-assessment.pdf

 

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am aelwydydd sydd heb gar at eu defnydd, pobl heb drwydded gyrru, profion gyrru a bathodynnau parcio cerbydau:  http://gov.wales/statistics-and-research/people-vehicle-licensing-ownership/?lang=cy

 

Mae gwasanaethau'r rheilffyrdd yn darparu cysylltedd pwysig mewn ardaloedd gwledig, ac mae ein cyllideb yn cydnabod y budd cymdeithasol ac economaidd i'r gymuned a gefnogir gan wasanaethau'r rheilffyrdd, yn enwedig o ran cydlyniant cymunedau a thwristiaeth.  Wrth baratoi i ddyfarnu masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau, rydym wrthi'n datblygu ein hymagwedd strategol at wasanaethau'r rheilffyrdd. Cyhoeddwyd ein hymgynghoriad ynglŷn â'r polisi 'Gosod y Cyfeiriad ar gyfer Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau' yn gynharach eleni fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â phawb perthnasol.  Mae'r adroddiad a ganlyn yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd: http://gov.wales/docs/det/consultation/1.60712-rails-borders-franchise-consultation-results-en.pdf

 

Er gwaethaf setliadau heriol yn y gyllideb, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyllid awdurdodau lleol ar gyfer y Grant Cymorth i Wasanaethau Bysiau ar £25m y flwyddyn i'w helpu i roi cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol.  Gan ymdrechu i wella ansawdd gwasanaethau bysiau lleol eto yng Nghymru a defnyddio'r arian sydd ar gael drwy'r Grant Cymorth i Wasanaethau Bysiau'n well, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Safon Ansawdd Wirfoddol i Fysiau Cymru ym mis Mawrth 2016, a'i nod yw:

 

 

 

Cymorth Busnes

Rydym yn dal i fwrw ymlaen ag ystod o weithgareddau sydd wedi'u targedu'n dda i helpu i sicrhau bod swyddi a chyfleoedd ar gael mewn ffordd gynhwysol a bod pob unigolyn yn gallu elwa o dwf economaidd. Mae sawl asesiad effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal gan y portffolio, sydd wedi helpu i lywio ein gweithgareddau.  Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n cynnwys data am Werth Ychwanegol Crynswth (GVA), swyddi i weithwyr, enillion fesul awr, cyflogaeth yn ôl lefel cymhwyster.  Byddwn yn ystyried y rhain wrth lunio ein cynlluniau gwariant: http://gov.wales/statistics-and-research/priority-sector-statistics/?lang=cy

 

Mae tua 45% o'r swyddi sydd ar gael yng Nghymru i’w canfod yn y sectorau â blaenoriaeth[3].  Rydym yn darparu dros £26m o gymorth yn 2015-17 a £236m yn arian cyfalaf dros y cyfnod 2017-18 tan 2020-21 i'n Sectorau â Blaenoriaeth (ac eithrio Gwyddorau Bywyd).

 

Mae'r rhaniad rhwng gweithwyr gwryw a gweithwyr benyw'n gymharol gyfartal mewn rhai sectorau megis: Twristiaeth (53% gwryw a 47% benyw) a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol (56% gwryw a 44% benyw).  Ond dynion yn bennaf sy'n cael eu cyflogi mewn meysydd eraill megis: Adeiladu (90%), Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (81%) a TGCh (74%) a bydd cymorth i'r sectorau hyn yn cael effaith gadarnhaol anghymesur. 

 

Ar gyfartaledd yng Nghymru, mae 3.7% o'r rheini sydd mewn gwaith yn dod o gefndir ethnig nad yw'n wyn.  Mae rhai o'n sectorau â blaenoriaeth megis Twristiaeth yn cyflogi 7.6% a'r TGCh yn cyflogi 5.9% o bobl o gefndir ethnig nad yw'n wyn a bydd rhoi cymorth i'r sectorau hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y grŵp hwn.

 

Mae'r sectorau a ganlyn yn cyflogi mwy o bobl anabl yng Nghymru na'r un sector yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw:  Mae'r Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol yn cyflogi 12.5% (9.3% yn y DU), y Sector TGCh yn cyflogi 11.6% (8.5%) ac Adeiladu'n cyflogi 11.2% (9.6% yn y DU) o bobl o'r grŵp hwn sy'n cael ei warchod. Mae'r sectorau hynny sy'n cyflogi'r ganran isaf o bobl anabl yng Nghymru'n cynnwys:  Gwyddorau Bywyd  (7.7%) a'r Diwydiannau Creadigol (9.5%), ac fe allai cymorth i'r sectorau hyn gael effaith negyddol ar y grŵp hwn sy'n cael ei warchod.

 

Twristiaeth sy'n cyflogi'r ganran uchaf o bobl rhwng 16 a 24 oed, sef 30.5%, o'i gymharu â'r cyfartaledd drwy Gymru, sef 12.5%.  O ran y bobl hynny sy'n 50 oed a hŷn, mae 7 ardal â blaenoriaeth yn cyflogi canran uwch o bobl yn y grŵp oedran hwn nag yn y Deyrnas Unedig drwyddi draw, er enghraifft:  Creadigol 32.3% (26.4% yn y DU), Sectorau TGCh 29.8% (24.3% yn y DU), Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol 33% (28.2% yn y DU).

 

Er mwyn ceisio goresgyn rhai o'r effeithiau anghymesur y gallai cymorth i'r sectorau hyn eu cael ar grwpiau sy'n cael eu gwarchod, rydym yn cymryd nifer o gamau megis:

 

 



[1] Mae'r Gronfa Trafodion Ariannol Wrth Gefn  ar gael ar gyfer benthyciadau polisi, yn bennaf ar gyfer buddsoddiadau benthycia ac ecwiti, ac mae'n ad-daladwy i'r Trysorlys

[2] http://www.whatworksgrowth.org/policy-reviews/area-based-initiatives/

 

[3] Ystadegau'r Sectorau â Blaenoriaeth 2016 - http://gov.wales/statistics-and-research/priority-sector-statistics/?lang=cy